Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAVID HUME AR ANFARWOLDEB YR ENAID. I. Gellir rhannu'r profion arferol dros anfarwoldeb yr enaid yn ddau dosbarth. (a) Profion a seilir ar ddamcaniaethau am natur yr enaid. Yn yr ymresymiadau yma, ceisir profi bod yr enaid yn gynhenid anfarwol. (b) Profion sydd yn ymddibynnu, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, ar y gred yn Nuw. Edrychir ar anfarwoldeb fel rhodd oddi wrth Dduw. Yn y ddau dosbarth, ceir gosodiadau a ffeithiau. Yn y cyntaf, honnir bod gan yr enaid natur arbennig, ac yna honnir bod unrhyw beth o'r fath yn anfarwol. Yn yr ail, honnir bod gan Dduw natur arbennig, ac yna honnir bod yn rhaid i'r fath Dduw roi anfar- woldeb i'r bodau a grewyd ganddo. Y cwestiwn a ofynnodd Hume oedd hyn, A ellir gwybod bod yr honiadau yma yn gywir ? A'i ateb yw y gellir gosod y ffaith ynglyn â natur yr enaid yn y dosbarth o ffeithiau y ceir tystiolaeth iddynt drwy synhwyriad neu ymarsylliad. Felly gellir profi neu wrthbrofi honiad o'r fath ar unwaith. Ond ni ellir canfod Duw yn uniongyrchol fel hyn. Os adnabyddwn ef o gwbl, adnabyddwn ef oherwydd ei fod ef wedi ei gysylltu, drwy berthynas achos ac effaith, â rhyw ffaith neu ffeithiau yr ydym yn awr yn eu canfod, neu a ganfuasom, acyrydymyn awr yn eu cofio. Help i'r esboniad fydd trafod yr ail ddosbarth o ffeithiau yn gyntaf.1 Dyma'r math o ymresymiad. Y mae gennyf brofiad o gysylltiad cyson rhwng ffeithiau fel A a B. Yr wyf yn edrych ar hyn o bryd ar ffaith C sydd yn debyg i B. Felly medraf gasglu bod yna gysylltiad achosol rhwng C a ffaith arall D sydd yn debyg i A, na welais erioed. Yn awr honnir mai dadl felly ydyw'r un a ganlyn. Pan edrychaf ar waith celfyddyd, rhaid imi gyfaddef bod y gwaith yn datguddio rhag- fwriad yn y crefftwr. Yn awr pan edrychaf ar y drefn naturiol, gwelaf arwyddion tebyg o ddeall a chynllunio. Nid ydyw'r syniad bod y drefn naturiol wedi digwydd ar ddamwain yn foddhaol, nac ychwaith y syniad bod y gyfundrefn wedi datblygu yn uniongyrchol allan o'r materol. Felly, rhaid casglu mai gwaith Cynlluniwr ydyw cyfundrefn natur. (E. 135-6)2 Wrth gwrs, dyma'r Ddadl oddi ar Gynllun 1 Y mae cryn dipyn wedi ei ysgrifennu ar ddaliadau Hume ynglyn â chrefydd. Ond, ar y cyfan, nid yw ei ddaliadau ar y berthynas rhwng diwinyddiaeth ac epistimeg wedi cael yr ystyriaeth a haeddant. Ceir yma ystyriaeth fer yn unig. Ceisiaf ymdrin â'r mater yn llawnach ar achlysur arall. 2 Yn yr erthygl hon, ceir y talfyriadau canlynol. Lie ni cheir llythyren gyda'r rhifolion rhwng cromfachau, e.e., (406), cyfeirir at y traethawd Of the Immortality of the Soul, a gyhoeddwyd gan Green a Grose yn y bedwaredd gyfrol o weithiau athronyddol Hume (Llundain. 1912. tt. 399-406). Ystyr (t. 36) ydyw, gweler tudalen 36 yn y Treatise of Human Nature, (gol. Selby-Bigge, Rhydychen, 1896) (E. 140) gweler tudalen 140 yn yr Enquries Concerning Human Understanding (gol. Selby-Bigge, Rhydychen, 1902) (D 241) tudalen 241 o'r Dialogues Concerning Natural Religion (gol. N. K. Smith. Rhydychen. 1935) ac yn olaf, cyfeiriad ydyw (A.R. 41) at yr Analogy of Religion o waith yr Esgob Butler, a olygwyd gan yr Esgob Fitzgerald (Trydydd argraffiad, Llundain. 1880).