Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SPEARMAN UN o ddynion mwyaf dylanwadol y ganrif hon ym myd seicoleg oedd Charles Edward Spearman. Er ei wreiddio yn y traddodiad athron- yddol, ei hanes a'i syniadau, ef a roddodd y sylfaen wyddonol i seicoleg gwybod a'i galluogai i fodoli fel gwyddor ar wahân i athroniaeth. Ni wnaeth hynny drwy wadu'r posibilrwydd o archwilio ystadau meddyliol, na thrwy amau effeithiolrwydd prosesau meddyliol ym- wybodol, nac ychwaith drwy neilltuo gweithgaredd arwybodol a'i astudio'n hollol ar wahân i agweddau eraill ar feddwl. Cymerai'r unigolyn ymwybodol yn ei gyfanrwydd fel gwrthrych ei astudiaeth, a llwyddodd nid yn unig i'w drin trwy gyfrwng methodau gwyddonol, ond hefyd i ddarganfod deddfau seicolegol ar sail canlyniadau ei arbrofion. Trwy roddi trefn ar un o feysydd pwysicaf seicoleg, a thrwy roddi ystyr ac arwyddocâd hollol newydd i astudiaeth unigolion yn gyffredinol, fe gyflawnodd Spearman un o'r gorchestion rhyfeddaf yn hanes seicoleg. Iddo ef, yn anad neb, yr ydym yn ddyledus am ein gwybodaeth bresennol o adeilwaith y meddwl dynol, ynghyda'r methodau angenrheidiol er mwyn ychwanegu at y wybodaeth honno. Yn yr ysgrif hon ceisiwn nodi rhai o'i brif gyfraniadau i seicoleg-er na allwn ond cyffwrdd â meysydd mor eang. Ceisiwn ddangos arwyddocâd ei fethodoleg, a'r modd yr arweiniai honno at ddam- caniaeth enwog y Ddau Ffactor. Ac yna ceisiwn ddisgrifio'r modd y mae'n trafod arwybod, gan gynnwys yr holl faes o dan nifer bach o ddeddfau sylfaenol. Ganed Spearman yn Llundain yn 1863, ac megis Descartes gynt, dewisodd yrfa swyddog yn y fyddin er mwyn cael yr hamdden a ddymunai i astudio athroniaeth a'i diddorai'n angerddol. Ond oherwydd deffro ei ddiddordeb mewn seicoleg arbrofol, pender- fynodd ymddiswyddo o'r fyddin, ac ar ddechrau'r ganrif hon aeth i'r Almaen i astudio'r pwnc o dan dri gwr enwog iawn, sef Wundt yn Leipzig, Külpe yn Würzburg, a G. E. Müller yn Göttingen. Wundt oedd arloesydd seicolegol mwyaf y ganrif ddiwethaf. Mae'n wir iddo adeiladu ar sylfaen gwaith arbrofol Weber a Fechner, ond ef oedd y cyntaf i drin seicoleg arbrofol o ddifrif, fel gwyddor, ac i sefydlu gweithfa seicolegol. Yr oedd ei gynnyrch yn aruthrol, a thrwy gyfrwng ei weithfa ysbrydolai nifer o ddynion ifainc, megis Stanley Hall, Cattell, Külpe a Titchener a ddaeth wedi hynny'n seicolegwyr byd-enwog. Cryf yw ei ddylanwad ar seicoleg hyd heddiw, yn enwedig trwy ei arbrofion amryfal ynglyn â synhwyro 0 bob math a ddatblygwyd yn helaeth gan ei ddisgyblion. Yn Würz- burg daeth Spearman yn gynefin â'r ymarsyllu arbrofol rheolaidd a berffeithiwyd gan yr ysgol honno. Defnyddiai Wundt fethod ymarsyllu — yn wir dywedai mai gydag ymarsyllu y dechreua seicoleg