Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU EITHER/OR, by S0ren KIERKEGAARD. Volume one translated by DAVID F. Swenson and LILLIAN M. Swenson. Volume two translated by Walter Lowrie. Oxford University Press, 1944, £ 2/2/0. Cyfieithiad Saesneg yw hwn o'r llyfr mawr cyntaf a gyhoeddwyd gan K., a hynny ym mis Chwefror, 1843. Prin ddeg ar hugain oed oedd yr awdur, ac ar drothwy'r naw mlynedd o egni creadigol toreithiog y mae'n anodd meddwl am ei gyffelyb. Yr oedd ei feddwl, a'i ysbryd, ar ôl yr holl ystormydd wedi dewis eu cwrs, er bod dwyseiddio mawr i fod eto ar ei brofiad crefyddol. Yr oedd ei gyfnod hir fel myfyriwr ym Mhrifysgol Copenhagen ar ben, aeth pum mlynedd heibio wedi bore llawenydd annisgrifiadwy" ei dröedigaeth, digwyddiad a ddilynwyd yn fuan gan farwolaeth ei dad. Wedi hir wewyr meddwl yr oedd yr amod priodas rhyngddo a Regine Olsen wedi ei dorri ganddo ers pymtheng mis, ac yn awr y mae K. wedi dychwelyd ers blwyddyn o brifysgol Berlin lIe cafodd ei siomi yn narlithiau Schelling, gwr y gobeithiasai K. ei weld yn dym- chwel athroniaeth Hegel. Ni cheir y cwbl o neges K. o bell ffordd yn nwy gyfrol helaeth Hyn/Neu. Er 1838 yr oedd ef eisoes wedi symud ymlaen i dir mwy pendant Gristnogol, ond fel yr eglura yn yr Adysgrif Orffen Anwyddonol (gw. cyf. Lowrie, tud. 239) yr oedd yn rhan o'i gynllun yn Hyn/Neu i gadw'r gwaith o fewn y categorïau moesegol fel y byddai pob arwedd yn glir ynddi ei hun Dyna wrth gwrs un o'r prif resymau dros briodoli gwahanol ddarnau o'r gwaith i A (y gwr ifanc esthetig "), ac i B," (neu'r Barnwr William). Trwy'r ddyfais hon, fel yr eglura K. unwaith eto yn yr Adysgrif, gall weithio allan i'r pen dueddiadau gwahanol na cheir mohonynt ond yn gymysgedig ym mywyd yr un unigolyn. Er na cheir y cyfan o neges K. yn y llyfr hwn y mae'n gynsail i'r cwbl a'i dilyn- odd, ac o fwriad y cyhoeddodd yr awdur ef gyntaf. Gresyn na ddilynwyd ef yn hyn gan ei gyfieithwyr, oblegid fe geir eglurhad helaeth yma ar lawer syniad ac ymadrodd na phoenir i'w dadansoddi mor ofalus mewn gweithiau diweddar- ach am fod K. yn rhagdybio gwybodaeth o'r llyfr hwn. I K. y mae pob bywyd dynol yn cael ei fyw o fewn i un o dri chategori, sef yr esthetig, y moesegol, neu'r crefyddol. Amcan Hyn/Neu yw cyferbynnu'r esthetig a'r moesol, ac yna dwyn y darllenydd hyd at drothwy'r trydydd a'r pwysicaf, sef y crefyddol. Cyn ceisio egluro cynllun yr awdur, priodol mi gredaf yw troi i dreio symud rhai camgymeriadau sydd ar led ynglyn â phrif nodweddion meddwl K. Daeth termau a sloganau o'i eiddo yn adnabyddus bellach, ac y mae He i ofni y lleolir ef ym meddwl llawer ar sail y rhain yn unig yn hytrach nag ar wybod- aeth o'i waith. Edrychwyd arno trwy sbectol y diwinyddion Barthaidd, a gwelwyd ynddo arloesydd yr ysgol honno yn unig. Onid oedd y lIe a roddai ef i'r gwrthresymol, y naid," a'r cwbl arall," yn ei wneud yn un ohonynt hwy ? Gellid, serch hynny, ddyfynnu llawer darn o'r Hyn/Neu (fel o weithiau eraill K.) i leddfu'r argraff hon. Dywedir, er enghraifft, ar dud. 75 o'r ail gyfrol, Nid yw crefydd mor ddieithr i'r natur ddynol fel y bo rhaid wrth unrhyw dor er mwyn ei deffro," ac ar dud. 123: Oni ellwch ddod i'r fan lIe gweliryr esthetig, y moesegol, a'r crefyddol, fel tri chynghrair mawr i'w gilydd, oni wyddoch sut i gynnal undod yr ymddangosiadau gwahanol a geir i bopeth yn y cylchoedd gwahanol hyn, yna y mae bywyd yn ddiystyr." Rhybuddia ni rhag defnyddio Hyn/Neu fel abracadabra i gyfarfod â phob sefyllfa (tud. 132/3 ) dywed yn blaen mai gwallgofrwydd yw hynny, fod i resymeg ei phriod waith, ond bod rhaid i enaid er mwyn osgoi distryw gyfarfod â rhai argyfyngau arbennig