Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

athroniaeth crefydd. Rhoes ei fryd ar yr egwyddorion hynny a ddylai reoli ymarweddiad dyn fel bod cyfrifol i'w Grewr ac i'w gyd-ddyn. Caru Duw a charu cymydog — dyna destunau ei fyfyrdod, dyna a fynnai eu dysgu i eraill. Nid wyf yn credu y buasai'n anghywir dywedyd mai dyna ddau begwn mawr ei fywyd a'i waith — yr ymdeimlad crefyddol dwfn â dibyniaeth dyn ar Dduw, a'r ymdeimlad cymdeithasol cryf a'i denai'n ddiwrthdro at bob myfyriwr a oedd o ddifrif yn chwilio am ddehongliad ar fywyd. Byddai'r myfyrwyr hynny a oedd yn hyn na'r rhelyw, dynion a merched wedi profi'n uniongyrchol rai o broblemau bywyd, yn ei gael ef bob amser yn gyfarwyddwr, athronydd a chyfaill, yn yr ystyr fanylaf. Daeth i Fangor o Goleg Harlech, wedi bod yn gysylltiedig â'r coleg hwnnw er ei gychwyn, a mawr ei serch bob amser at fyfyrwyr cyffelyb i'r rhai a adnabu yn Harlech. Ynddynt hwy fe welai ddarlun ohono'i hun — gŵr â'i fryd ar ennill daear gadarn i feddwl ac ysbryd ynghanol siglennydd amheuaeth ac anawsterau. Oherwydd ei fagwraeth werinaidd ef ei hun, ei brofiad fel gweinidog, caplan a thiwtor, dysgasai'n well na neb ohonom mai da oedd meithrin cydymdeimlad a goddefgarwch at fyfyrwyr o'r math hwn. Ynghlwm wrth ei ymdeimlad cryf â dyletswydd gymdeithasol yr oedd ymdeimlad, llawn cyn gryfed, â chyfundod dysg. Nid yr ym- chwiliwr beiddgar, gwreiddiol, yn ymwthio y tu hwnt i'r frìniau mohono ef, ond yn hytrach gwr a gyfnerthai'r safleoedd a enillwyd eisoes, gan bwysleisio a chadarnhau perthynas ganolog athroniaeth â meysydd eraill gwybodaeth. Nid mewn athroniaeth fel y cyfryw, fel diben ynddi ei hun, yr oedd ei wir ddiddordeb ef, yn gymaint ag mewn athroniaeth crefydd, athroniaeth gwyddoniaeth, athroniaeth hanes. Yn y dull athronyddol o wynebu dysg fe welai ef ffordd i gyfuno pob gwybodaeth ac i ddwyn myfyrwyr y celfyddydau a'r gwyddorau i ddeall ei gilydd ac i werthfawrogi astudiaethau arbennig y naill a'r llall. Ac felly iddo ef yr oedd Coleg Harlech i gychwyn, a Choleg Bangor wedyn, pob un ohonynt yn wir gyfundod o ddysg ac o fywyd-o fywyd yn ogystal ag o ddysg. Ac yr oedd byw mewn cyfundod yn golygu mwy iddo ef nag ystafell fyfyrio ac ystafell ddarlithio. Rhaid rhoi ei Ie i adloniant — adloniant meddwl a chorff. Carai flodau. Deallai a charai gerddoriaeth câi gysur a diddanwchdiddiwedd yng nghyngherddau wythnosol y Coleg. Deallai a mwynhâi chwaraeon — rygbi a chriced. Chwaraeodd hwy yn fachgen yn y De, a glynodd brwdfrydedd ei ieuenctid wrtho drwy ei fywyd. Byddai'n myned i weled chwaraeon ar y Ffriddoedd yn gyson, os gallai rywfodd yn y byd. Bu'n gaplan yn y Lluoedd, bu'n weinidog ar eglwysi mawr a phwysig, bu'n diwtor a daeth yn Athro ond mewn rhyw ystyr ni pheidiodd erioed â bod yn fachgen, ni pheid- iodd erioed â blasu mwyniant iach chwaraeon ac adloniant.