Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HERBERT MORGAN 1875-1946 (Llywydd yr Adran Athronyddol 1933-4) Ac eithrio'r ieuengaf ohonom ychydig yw'r Cymry sy'n fyw heddiw na welodd Herbert Morgan rywbryd neu'i gilydd, yn y pulpud, ar lwyfan neu mewn ystafell dosbarth allanol. Meddai gorff hardd ac wyneb nodiadol, talcen ysgolhaig, llygaid treiddgar, trwyn cryf, gwefusau trwchus, gên bendant-y cyfan yn amlygu deall, nerth, ac ar yr un pryd fwynder anghyffredin. Rhedai rhyw gymaint o waed yr uchelwyr yn ei wythiennau, canys cysylltai â theulu bonheddig Kemys. O'r ffynhonnell hon yn ddiau y tarddodd yr urddas hynny oedd mor nodweddiadol ohono. Blynyddoedd yn ôl clywais ei alw'n ddyn balch gan rai a'i hadwaenai'n ifanc. Os oedd yn falch nid oedd hynny yn sicr ond adwaith naturiol dyn o alluoedd eithriadol a gafodd ei hun ar ddechrau ei yrfa ar waelod yr ysgol, mewn cymaint tlodi nes bod ei gymdogion yn gorfod ei gynorthwyo i Goleg Caerdydd a chyfeillion eraill yn ddiweddarach ei gynorthwyo i fynd i Rydychen. Os bu falch erioed purwyd ef yn fuan o'r pechod hwn gan yr Efengyl a bregethai. Ynghanol ei ddyddiau ac yn ei henaint nid oedd dim balchder yn ei ysbryd ond yn hytrach wyleidd-dra Cristnogol, eto heb golli dim o'i urddas naturiol. Nodais dlodi y blynyddoedd cynnar. Ni chreodd hynny ynddo unrhyw atgasrwydd tuag at y dyddiau hynny i'r gwrthwyneb carai sôn am ei gartref yn y Rhondda ac am ei dad a'i fam, ac yr oedd hyn i'w ryfeddu ynddo gan anamled y siaradai am ei fywyd ei hun. Edmygai ei dad yn fawr, edrychodd gyda thosturi ar ei fywyd mor llawn o galedwaith. Byth wedyn un o'r pethau dyfnaf yn ei enaid oedd ei ymdeimlad o ddrygioni ac o anghyfiawnder y system gym- deithasol a wasgodd mor drwm ar fywyd ei rieni. Ond dyfnach na hynny hefyd oedd ei afael ar y gwerthoedd a welodd gyntaf yn rheoli bywyd ei dad a'i fam. Y cartref yn y Rhondda oedd ysbrydiaeth y cyfan a ddilynodd. Ganed Herbert Morgan τ ς Medi, 1875, yn yr Onllwyn, Cwm Dulais ond symudodd y teulu'n fuan i'r Porth. Addysgwyd ef yn ysgol y Porth, Academi Pontypridd, Coleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Graddiodd ag anrhydedd mewn Athroniaeth a Groeg. Yna aeth i Goleg Mansfield, Rhydychen, lle y graddiodd ag anrhydedd mewn Diwinyddiaeth. Oddi yno cafodd ysgoloriaeth a'i cymerodd i Marburg yn yr Almaen. Yn 1906 derbyniodd alwad i eglwys enwog Castle Street, Llundain.