Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ARGYFWNG A DATGUDDIAD. Gofynnwyd i mi draddodi anerchiad yn ddiweddar ar y testun Duw fel ynni creadigol.' Credaf fod y geiriau hyn yn ein dwyn ar ein hunion i ganol argyfwng cymdeithas heddiw, ac er na chyfeiriaf eto at y geiriau eu hunain, hwynt-hwy mewn gwirionedd fydd byrdwn y sylwadau sy'n dilyn. Mae'n anodd iawn rhoddi syniad cywir am yr hyn y mae creadigaeth yn ei olygu. Yn wir mae dadansoddiad manwl allan o'r cwestiwn. Oherwydd nid proses rhesymegol yw creu. Un o'r camgymeriadau mwyaf oedd tybio fod creadigaeth yn rhywbeth y gallai'r meddwl dynol ei amgyffred. Ond ei hanfod yw bod y tu hwnt i'r meddwl. Byddai dweud hyn yn heresi fawr hanner can mlynedd yn ôl, pan oedd rhesymoliaeth ac idealaeth mewn mwy o fri nag erioed. Ond bu adwaith llym iawn yn erbyn y tueddiadau hyn bellach, a newidiwyd ansawdd feddyliol ein gwareiddiad lawn cymaint â'i amgylchiadau cymdeithasol a gwleidyddol. Y peth pwysicaf yn yr holl newidiadau hyn yw'r ymdeimlad â therfynau'r meddwl. Cymerth hyn fwy nag un ffurf — y pwyslais ar sythweliad mewn moeseg, ac, weithiau, mewn athroniaeth gwybod, empeiriaeth, y pwyslais ar amser a hanes ac weithiau ymollwng i afresymoldeb mewn ffydd a gweithred nes peryglu ein gwareiddiad o11. Gyda phetruster mawr y mae athronydd yn bendithio'r cyfyngu yma ar reolaeth rheswm. Y mae hynny yn groes i'w brif draddodiadau, o ddyddiau Groeg hyd yr oes hon. A gwyddom oll, heb unrhyw fanylu, mor niweidiol y dichon i fudiadau gwrthresymol fod. Rhaid i ni fodd bynnag gydnabod fod terfynau i reswm, a bod ystyr mewn dweud fod agweddau i fywyd a phrofiad nad ydynt yn rhesymegol. Daeth yn bwysig iawn heddiw gydnabod hyn, fel y dangosir yn eglurach maes o law. Y gamp arbennig, y peth y try argyfwng ein gwareiddiad o'i gwmpas, mewn athroniaeth a chrefydd fel mewn materion cymdeithasol, yw'r dasg o ddarganfod beth yw swyddogaeth a therfynau rheswm, ac yn arbennig, beth yw perthynas y wedd resymegol ar brofiad a'r elfennau ohono nas gellir eu gosod allan fel gweddau o gyfundrefn resymegol hunan-ddigonol. Os gwnawn hyn yn afrwydd fe syrthiwn i oferedd a gorffwylltra, ac mae argoelion o ansawdd y trychineb yma yn ein hathroniaeth a'n diwinyddiaeth yn ogystal ag mewn cyfyngderau gwleidyddol. Ond os ymatebwn i ofynion ein tasg gyda phwyll a threiddgarwch, hwyrach y gwêl y dyfodol agos gynnydd yn hanes yr hil ddynol anhraethol wahanol i ddim a welwyd yn y gorffennol a sicrach. Ac fe ellir gosod y pwynt hwn yn gymwys iawn drwy ddweud mai ymdeimlo yn deg, ac yn unol â'i chynnydd, â nerthoedd creadigol yw camp y ddynoliaeth heddiw.