Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PRAWF YR ATHRO MOORE O FYD ALLANOL YN ei ddarlith i'r Academi Brydeinig yn 1939, Prawf 0 Fyd Allanol, dychwelodd yr Athro G. E. Moore at hen broblem profi bodolaeth pethau oddi allan i ni. A haerodd iddo roi, yn ystod y ddarlith, brawf anwadadwy o'u bodolaeth. Amheuaf yr haeriad hwn. Credaf y tanseilir prawf' yr Athro Moore gan y dadansoddiad a ddyry ef ei hun o ystyr gosodiadau megis Cadair yw hon" neu Dwylo yw'r rhain." A'm hamcan yn y papur hwn fydd rhoi fy rhesymau dros gredu hynny. I ddeall y prawf rhaid deall pa bethau yn hollol yr amcanai Moore brofi eu bodolaeth. Defnyddir fel cyfystyron gan athronwyr y termau pethau allanol,' pethau y tu allan i ni a phethau y tu allan i'n meddwl ni.' Gwneir yn glir gan y term olaf nad bodolaeth y tu allan i'n cyrff ni a olygir wrth fodolaeth 'allanol'. Eto nid yw'r syniad o fodolaeth y tu allan i'n meddwl yn gwbl glir ac ymrydd Moore i'r dasg o'i ddiffinio. Try ei ddadl o gwmpas y cyferbyniad rhwng dau fath o wrthrych. Rhestrir ganddo gyrff dynion ac anifeil- iaid, planhigion, adeiladau a phethau gwneud, megis cadeiriau a byrddau, fel enghreifftiau o'r math cyntaf. Cynnwys ei restr o enghreifftiau o'r math arall bethau dieithriach ac anos eu hadnabod. Tybier fy mod yn craffu'n hir ar yr haul yn machlud ac yna yn troi fy mhen i ffwrdd, gwelaf belennau 0 liw glas neu borffor ym mhobman 'o flaen fy llygaid'. Neu tybier fy mod yn craffu ar olau trydan ac yna'n cau fy llygaid yn sydyn, ymddengys yn y düwch glwt o olau o'r un lliw a ffurf â'r golau y bûm yn craffu arno. Gelwir y phenomenau hyn yn ôl-ddelwau (after-images) ac fe'u rhestrir gan Moore fel enghreifftiau o'r ail fath o wrthrych. Enghreifftiau eraill yw delwau- breuddwydion (dream-images), lledrithiau (hallucinations) a theim- ladau corfforol megis poen yn y cylla neu'r ddannodd. Yn awr am y pethau a ymddengys yn ei restr gyntaf defnyddia Moore derm y daeth o hyd iddo yn Kant pethau ydynt sydd i'w cael mewn gofod (to be met with in space). Yr enw cyffredin arnynt gan athronwyr yw gwrthrychau materol (physical, neu material, objects). Nid ystyrir gwrthrychau fel ôl-ddelwau yn wrthrychau materol am nad ydynt i'w cael mewn gofod er eu bod, sylwer, i'w canfod mewn gofod. Tyn Moore wahaniaeth gofalus rhwng dweud fod peth i'w ganfod mewn gofod (presented in space) a dweud ei fod i'w gael mewn gofod (to be met with in space). Y mae'r pelennau porffor a welaf o flaen fy llygaid wedi ysbaid o graffu ar yr haul i'w canfod mewn gofod. Y mae hyd yn oed y clwt golau a welaf wedi cau fy llygaid ar ôl craffu ar olau trydan i'w ganfod mewn rhyw fath o ofod. A phan fydd y ddannodd arnaf, gan y teimlaf y boen ar ryw ochr neu'i gilydd i'm genau, neu yn y dant a'r dant, nid yw'n annaturiol dweud