Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAGFYNEGI LLWYDDO A METHU MEWN PRIODAS YN ddiweddar datblygwyd ffyrdd newydd i ragfynegi llwyddo a methu mewn priodas a'r rheiny'n ffyrdd gwyddonol a phendant. Ar wahân i'r ymchwiliadau gofalus-wyddonol ac ystadegol a wnaed gan seicolegwyr a chymdeithasegwyr arbrofiadol a gwrthrychol, ni buasai gennym destiau y gellir dibynnu arnynt yn y maes hwn. Ar lefel lenyddol a chyn-wyddonol Freud, Adler, a Jung y buasem o hyd. Darllener unrhyw lyfr o eiddo'r seicoddadansoddwyr, darllener, er enghraifft, ddwy gyfrol dda Helen Deutsch ar The Psychology of Women a gy- hoeddwyd yn ddiweddar, a gwêl y sawl na chybolwyd ei brosesau meddwl gan jargon y dylid darllen y cyfryw stwff â'r "amheuaeth lygadog a gymeradwyid gymaint gan Goethe. Mae'n llawn dam- caniaethau a ffantasiau, a'r rheini'n cael eu cynnig yn hyderus-dawel fel pe baent yn ffeithiau diogel. A pha beth arall a allem mewn gwirionedd ei ddisgwyl pan na ddibynna'r meddylwyr hyn ar ddim amgenach na mesur-pen-bawd sythweliad (intuition) dynol, yn lle ymdrafferthu i ddefnyddio technegau mesur gwyddonol ? Fel y gwyr pob plentyn ysgol a gymer gwrs mewn gwyddor elfennol, un o gonglfeini sylfaenol gwyddoniaeth yw mesur. Dangosodd y meddylwyr seminal ym maes Rhesymeg a'r Method Gwyddonol- dynion fel Russell, Wittgenstein, Schlick, Carnap, etc.-fod y cynnydd a'r gwella mewn crebwyllu (thinking) a wnaed yn bosibl drwy'r system rifo bron mor aruthrol fawr â'r cynnydd a'r gwella a effeithiwyd drwy ddatblygiad iaith ei hun-yn wir, nid yw rhifo yn y gwraidd yn ddim ond coethi ac ymestyn symbolau ieithyddol i gyfeiriad maximum precision and generalization (Schlick). Er enghraifft, os gofyn- nwch i mi beth yw'r pellter oddi amgylch Neuadd y Dref, gallaf ddyfalu a chynnig rhywfath ar ateb, ond os rhoddwch dâp-mesur imi, gallaf roddi ateb cywirach o lawer os gofynnwch imi ers pa faint o amser yr wyf wedi bod yn ysgrifennu'n awr, amwys iawn fuasai fy syniad, ond os edrychaf ar y cloc yna, fe welaf yn awr i mi fod wrthi am ugain munud union. Deil llaweroedd sydd heb fod yn gyfarwydd â defnyddio testiau personoliaeth a thestiau tymheredd trylwyr safoneiddiedig i gredu na ellir dibynnu dim ar y cyfryw destiau ac y medrir ffurfio amcan- gyfrif mwy hyderadwy (reliable) o gymeriad a phersonoliaeth ar bwys mantolgwrdd (interview). Yn awr, fe wn i o'r gorau nad yw'r rhelyw mawr o destiau seicolegol yn werth y papur y printiwyd hwy arno. Nid trafod yr ydwyf yma y testiau seicolegol y deuir ar eu traws yn y cylchgronau poblogaidd a lled-boblogaidd, testiau a gynigir yn gwbl ddigywilydd heb roddi inni ddim data ynglyn â sefydlu-eu-safadwyedd (validation), ynglyn â'u safoneiddio (standardization), ynglyn â'u normau a'u gwrthrycholedd,