Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU PLATON Gorgias. Cyfieithwyd gan D. EMRYS Evans. Gwasg Prifysgol Cymru, 1946. Td. 128. Pris 7/6. Mi dybiwn i mai llafur cariad i'r Prifathro D. Emrys Evans yw cyfieithu dialogau Platon i'r Gymraeg. Dyma'r pedwerydd tro inni gael y gymwynas hon ar ei law, ac nid oes ond gobeithio y caiff rwyddineb i barhau gyda'r gwaith. Oher- wydd yn y byd sydd ohoni heddiw mae dygn angen am arweiniad y gwir athronydd, ac os gallwn ni yng Nghymru fanteisio ar y cyfle a estynnir inni i ddarllen llyfrau Platon yn ein hiaith ein hunain, a myfyrio ar yr hyn a gawn o'u darllen, bydd gobaith cadarnach am barhad bywyd y genedl. A daw hyn â mi at gwestiwn arall. Gwych o beth ydyw i Fwrdd Gwasg y Brifysgol gyhoeddi llyfrau fel hyn. Ond pa faint o ddarllen a thrafod sydd arnynt ? Gallaf feddwl bod rhai o aelodau Dosbarthiadau Allanol mewn Athroniaeth yn eu trafod cawn fy siomi ar yr ochr orau pe deallwn fod myfyrwyr y Colegau Cenedlaethol yn cael eu mynych gymell i'w darllen a'u chwilio. Gallent i'w mewn eu mwynhau, hefyd. Teimlaf wrth ddarllen Gorgias yn ei wisg Gymraeg fod y cyfan wedi ei osod ynghyd yn wrthrych rheolaidd a hydrefn (a dyfynnu geiriau o'r testun ei hun, 504a). Trwy'r cwbl treiddia rhyw gadernid tawel, urddasol, nad yw byth yn syrthio i gyffredinedd (awgrymaf un eithriad bach, heb ddymuno bod yn fursennaidd onid gwell llyfrgwn am deilous yn 497e ? Llzf1r a geir yn cyfateb i'r un gair yn 498b), ond sy'n ymgadw, fel y gweddai, rhag arddull ymfflamychol a chlytiau porffor, y ceisiai gwr â meddwl llai disgybledig eu gweithio i mewn yn rhywle neu'i gilydd. Ar brydiau, bid sicr, mae dyn yn synhwyro rhyw gerddediad petrus, yn enwedig ynglyn â threfn y geiriau neu rediad y brawddegau ond o graffu'n fanylach gwelir bod ym meddwl y cyfieith- ydd (os iawn y dehonglir) ryw reswm arbennig dros hynny, neu ynteu fod y frawddeg yn gyfryw fel na ellir disgwyl i ddyn meidrol ei throsi i'r Gymraeg, a chadw'n ddigon agos at y gwreiddiol, ond megis ag y gwnaethpwyd. Fe dalai'r Rhagymadrodd ei astudio drosodd a throsodd a'r unig feirniadaeth sydd gennyf ydyw bod y ddwy ran gyntaf yn rhy fyr ac mai gwych o beth fyddai cael gan y Prifathro, rywbryd, ymhelaethiad arnynt a thywysiad i feysydd eraill perthnasol. Yna, carwn cyn dechrau manylu ddywedyd unpeth neu ddau. Yn gyntaf, pa bryd y cawn rywun i draethu'n gyffredinol ar bro- blemau cyfieithu o ieithoedd eraill i'r Gymraeg ? Cawsom sylwadau, a mwy, gan Syr ldris Bell ac eraill, ar gyfieithu o'r Gymraeg ond os gallwn edrych ymlaen (fel yr hydera rhai ohonom) at ragor o gyfieithiadau o'r ieithoedd clasurol --ac y mae mawr angen amdanynt, gan leied nifer y rheini sy'n eu hastudio bellach yn ysgolion a cholegau Cymru — oni chawn hefyd driniaeth ar y broblem yn gyffredinol ? A dyma'r pwynt nesaf. Mae rhai geiriau a rhai cyffyrddiadau yn Gymraeg wedi magu ynom, o'u harfer, adweithiau neu gysylltiadau y mae'n bur anodd inni ymddihatru ohonynt. Cymeraf un enghraifft. Yn y Gorgias (523b) ceir y gair eỳimeletai. Arolygwyr sydd yn y Gymraeg ac ni waeth imi gyfaddef mai arolygwyi Ysgol Sul neu Arolygwyr Ysgolion ei Fawrhydi a ddaw ar unwaith i'm meddwl i. Ond pa air y gallesid ei arfer yn amgen, nid wyf i yn gwybod. Yna, yn yr un paragraff, ceir Ynysoedd y Bendigaid am maharon nesoi. Bûm yn crafu fy mhen, fel petai, am beth amser: meddyliais am Ynys Afallon ond prin y gwnâi hynny'r tro yna am Ynysoedd y Dedzεydd, ond yr oedd dedwyddwch yn y llinell yn cyfateb i eudaimonia. Ac efallai, wedi'r cyfan, mai peth cwbl bersonol ydyw hyn ac nad yw mewn gwirion-