Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

500c. Tybed a yw siarad yng ngwydd y bobl yn cyfleu holl ystyr legein en toi demoi ? 500e. Oni fyddai afernaist yn well ? 502b. Ni thybiaf fod ymddygna yn cyfateb yn iawn i espoudake. Tvbed a wnâi ar ba beth y mae hi wedi rhoddi ei bryd y tro ? (Cymh. 510c). 503d. A ellid ystwytho tipyn ar rediad yr ymadrodd y dyn da äi olwg ar rywbeth ? 504e. Efallai y gellid ychwanegu neu beidio ? ar ôl A wyt tiyn cytuno. 505e. Rhoddir llinell gyfan yma fel petai'n ddyfyniad, ond ym- ddengys fod Socrates wedi aralleirio'r ail ran (a ddaw'n gyntaf yn y Gymraeg). Os felly, dylid dechrau'r dyfyn- nodau o flaen y gair lle. 507b. A oes angen dwy frawddeg, wahanol — hunan-feddiannol yma ac yn ei iawn bwyll yn 507с—i ddynodi sophron ? 510b. Beth am dywedaist yn lle dywedwyd (dokeis eirekenai)? 512b. Onid cliwaethach (gw. O.I.G., t. 82) ? 512. Rhaid imi ddywedyd bod rhywbeth dieithr i mi yn yr ym- adrodd ar y tiry clodfori dy orchwylion dy hun. 514c. Onid athro arnom yn hytrach nag athro i ni ? 515b. Ymddengys i mi fod y gair þhilonikos yn cynnwys dwy ystyr, sef hoff o fuddugoliaeth a codi cynnen ond nid hwyrach byddai'n ormod ceisio cyfleu'r ddwy ystyr wrth gyfieithu. 519a. Hoffais yn fawr ias o selni am he katabole tes astheneias. 521b. Awgrymaf Paid â dywedyd wrthyf, fel y dywedaist droeon 521c.. Beth am hap a damwain yn lle digwydd a damwain ? 525a. Nid wyf yn hapus ynghylch argraffwyd am exomorxato. Ystyr y gwreiddiol, mi dybiaf, yw sychu rhywbeth oddi ar rywbeth arall a'r ergyd yma yw bod yr olion yn ymdaenu'n anhrefnus dros yr enaid 0 leiaf, fel yna y deallaf i'r gair. 525a. Teimlaf y collir ergyd gemousan drwy roddi yn llwyr. Beth am yn gyforiog o anghymesuread a hacrwch ? 526b. Da fyddai cael nodyn ar Aristeides. 527a. Fy nhuedd i fyddai rhoddi breuddwyd gwrach yma (gw. y sylw ar 480b). A daw hyn â ni at y terfyn a'r paragraff gwych sy'n cloi'r ddadl. Yn bersonol, caraswn i gael ychwaneg o angerdd yn y Gymraeg yn y paragraff hwn ond dichon mai'r urddas tawel, deoledig, sydd yn gweddu iddo mewn gwirionedd. Boed hynny fel y bo, fy nyletswydd a'm braint ydyw diolch o galon i'r Prifathro am y campwaith hwn, gan fawr hyderu y cawn Wladwriaeth Platon ganddo yn Gymraeg yn yr amser cymeradwy. Aberystwyth. T. I. Ellis.