Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EXISTENTIALISM, by Guido DE Ruggiero, edited and introduced by RAYNER HEPPENSTALL. London Secker and Warburg. 1946. Tud. 52. Pris 6/- Y mae peth ofnadwy yn mynd i ddigwydd i mi. Fe gaiff y proffesoriaid afael ynof Os gwir y dehongliad a geir yn y llyfr uchod o'r Ddirfodaeth gyfoes y mae darogan Kierkegaard amdano'i hun wedi ei gwireddu. Pan soniai ef am y proffesor (ni wna'r gair athro mo'r tro yn y cyswllt hwn), golygai wr yn astudio profiadau dynion eraill, ac yn lle darganfod eu rhin trwy eu byw, yn ceisio'u gweu i mewn i gyfundrefn ddeallol gynhwysfawr.'Yn ôl y llyfr hwn, dyna'n union a wna'r ddau broffeswr Almaenig, Heidegger a Jaspers/sef cymryd rhai o brofiadau mawr Kierkegaard wrth eu henwau, ac ar waethaf ei brotest gyson ef yn erbyn cyfundrefnu pob dirfod, cymerir rhai o'i brif dermau, megis Dirfod ei hun, ac eraill a olyga'n bennaf gyflyrau'r meddwl a'r ysbryd, megis Pryder, Braw, ac Euogrwydd, a gweu o gwmpas y rhain ontoleg newydd gyfun- drefnol'. Ymbellheir oddi wrth brif beth Kierkegaard, sef y sefyllfa ddiriaethol, arbennig, a phersonol; y mae Dirfodaeth yn colli golwg ar y diriaeth Y mae i'r llyfr ddwy ran. Y gyntaf yw rhagarweiniad Heppenstall. Dechreua gydag amlinelliad o brif ffeithiau allanol bywyd Kierkegaard (yr agwedd leiaf pwysig o'i fywyd), ac yna ceir ychydig sylwadau ar ei berthynas â'r mudiad rhamantaidd. Wedi olrhain ychydig ar gynnydd gwybodaeth am Kierkegaard yn Lloegr yn nhri degau'r ganrif hon, eir ymlaen i sôn am dwf yr Existenz- ỳJtilosophie newydd yn yr Almaen yn y cyfnod hwnnw dan arweiniad Heidegger a Jaspers. Diddorol sylwi mai i'r Cymro hwnnw, y diweddar Dr. Tudor Jones, y rhydd Heppenstall y clod am fod y cyntaf i gyflwyno i ddarllenwyr Saesneg y ddau feddyliwr hyn, a hynny mor gynnar â 1931, sef yn ail gyfrol ei Contem- porary ThougJU of Germany. Ar waethaf agnosticiaeth Heidegger, yr oedd y mudiad yn y cyfnod hwnnw yn dal i fod yn grefyddol ei duedd, ond yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd datblygwyd gyda nerth a chyflymder rhyfedd, yn en- wedig yn Ffrainc, fudiad dirfodol, atheistaidd, a phendant wrthgrefyddol. Sonnir am y gangen hon gan Heppenstall, ond ni cheir gan Ruggiero ddim ymdriniaeth arni, a chyfnod canol y mudiad, sef y llurhau a gymerodd yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd, yw prif bwnc y llyfr. Â Heppenstall i sôn am ddwy agwedd o'r adwaith sy'n codi heddiw yn ei erbyn, yn arbennig yn yr Eidal, sef yn gyntaf yr adwaith Catholig, ac yna'r adwaith o du'r Idealaeth Eidalaidd, y gellir ei tharddu o Hegeliaeth, ond nid heb gyfnewidiadau pwysig. Perthyn i'r ysgol hon, sef ysgol Croce, y mae Guido de Ruggiero, athro athron- iaeth yn Rhufain, ac y mae'n pwyso a barnu Dirfodaeth wrth fesur pendant,sef wrth safonau ei ysgol. Arwynebol ar y cyfan yw ymdriniaeth Heppenstall, er bod ganddo nifer o sylwadau diddorol, ac y mae ei amlinelliad hanesyddol yn fuddiol gan fod mor ychydig eto wedi ei sgrifennu yn Saesneg ar y pwnc. Y mae i draethawd Ruggiero ei ragarweiniad, ac yna ddwy ran. Yn y rhan gyntaf fe geir disgrifìad beirniadol o brif elfennau dysgeidiaeth pedwar o blith y Dirfodwyr amlycaf, sef Kierkegaard, Heidegger, Jaspers, a'r FfrancwrCristnogol Gabriel Marcel. Yn yr ail ran o'i draethawd y mae Ruggiero yn ymdrin o safbwynt ei ysgol â'r mudiad yn gyffredinol yn ei rinweddau a'i ddiffygion. Y mae pedwar tudalen rhagarweiniol Ruggiero yn bwysig er deall ei amcan a'i gynllun. Ar ôl sôn am boblogrwydd Dirfodaeth mewn cyfnod argyfyngus, rhanna ddeiliaid y mudiad yn ddau ddosbarth. Y cyntaf yw'r bobl hynny a hudwyd gan gategoriau emosiynig fel y llam, pryder, a UongddryUiad yn hytrach na chan gategorïau oer a gwrthrychol athronwyr eraill. Eto, fe gyd- nebydd Ruggiero fod yna ddosbarth arall,sef y gwir feddylwyr Dirfodol y mae'n rhaid eu cymryd o ddifri. Deil mai hwy yw disgynyddion Kierkegaard yn ei