Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyma, bid siwr, ydyw'r math o ddefnydd a wneir o'r gair cyfrifoldeb pan honnir fod yna ddirywiad yn yr ymdeimlad hwn. Os felly, y mynegiant cywiraf o'r hyn y dymunir ei gyfleu yw fod yna ddirywiad yn yr ymdeimlad o ddyletswydd. Cadarnheir mai dyma wir ystyr yr honiad os ystyriwn bethau a nodir fel amlygiadau o'r dirywiad moesol. (a) Sonnir am y dyletswyddau arbennig sydd yn deillio o'r ffaith fod dyn yn sefyll mewn perthynas arbennig â phersonau eraill, er enghraifft, rhieni a phlant, plant a'u rhieni, dyn ac aelod o'r un teulu neu genedl ag ef ei hun. Dywedir, er enghraifft, nad yw rhieni yn ymdeimlo â'u dyletswydd tuag at eu plant i'r graddau yr oeddynt rai blynyddoedd yn ôl, cyn i'r wladwriaeth gymryd arni ei hun y ddylet- swydd o addysgu plant, gofalu eu bod yn cael un pryd o fwyd syl- weddol y dydd, a sicrhau na fydd unrhyw blentyn, oherwydd tlodi, heb ddillad graenus i fynd i'r ysgol. (b) Sonnir am ddyletswyddau dyn tuag at ei gyd-ddyn. Yn ar- bennig cyfeirir yn aml heddiw at ddyletswydd pob dyn i hyrwyddo budd economaidd cymdeithas drwy roddi o'i orau, hynny yw, drwy fod yn gydwybodol, yn ei waith beunyddiol. Felly clywn gyfeiriadau at ddiffyg ymroddiad dynion i'w gwaith, naill ai drwy wneuthur gwaith sal, neu trwy beidio â gweithio pan ddylent wneuthur hynny. (c) Honnir bod pobl yn llai parod i gyflawni'r dyletswyddau moesol a gydnabyddir yn arferol — ỳrima facie duties fel y gelwir hwy gan Ross, e.e. dweud y gwir. Gallwn yn ddiogel felly, mi gredaf, hawlio mai'r gosodiad a wneir mewn perthynas â dirywiad moesol, yw fod llaweroedd o unigolion wedi peidio â chyflawni amryw o ddyletswyddau. Mater i'r ystadeg- ydd fuasai profi a ydyw'r gosodiad yn ffaith, ond gall yr athronydd ddyfalu beth a allasai dirywiad moesol ei olygu o fewn meddwl a theimlad unigolion. Medr awgrymu hefyd sut y gallasai'r fath beth ddigwydd mewn cymdeithas, ac felly fod o help i unrhyw ystadegydd cymdeithasol a fuasai'n dymuno gwneuthur ymchwil i'r mater, trwy awgrymu iddo pa gwestiynau y dylsai eu gofyn. Awgrymaf dri esboniad posibl ar y ffaith fod rhywun neu rywrai wedi peidio â chyflawni gweithred a adweinid gynt fel dyletswydd (i) am na chydnabyddir y weithred bellach fel dyletswydd (2) am nad oes awydd ar y person neu'r personau dan sylw i gyflawni'r ddyletswydd, er iddynt barhau i'w chydnabod fel dylet- swydd (3) am fod yr awydd i gyflawni'r ddyletswydd a gydnabyddir yn rhy wan i gael mynegiant mewn gweithred, e.e., yn rhy wan i oresgyn dymuniadau eraill.