Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWLEIDYDDIAETH RICHARD PRICE.1 YR OEDD diddordebau Richard Price yn lluosog ac yn amrywiol. Fel ei gyfoeswr a'i gyd-Sentar, Joseph Priestley, crwydrodd ei chwil- frydedd a'i fynych ddyfaliadau i lawer o feysydd. Ysgrifennodd yn helaeth ar fetaffiseg, diwinyddiaeth, moeseg, mathemateg, problemau ariannol, yswiriant ac addysg. Ond yn ei ddydd daeth yn fwyaf enwog fel ysgrifennwr ar bynciau gwleidyddol.2 Yr oedd yn y rheng flaenaf o'r rhai a ddeisyfai weld mwy o oddefgarwch crefyddol a diwedd ar y rhwystrau a oedd ynghlwm wrth Anghydffurfiaeth yn y ddeunawfed ganrif. Cymerth blaid y trefedigaethwyr Americanaidd yn eu hymdrech i gael annibyniaeth ar hyd ei oes cefnogodd fud- iadau i ddiwygio cyfansoddiad y wlad, ac yn ei flynyddoedd olaf yr oedd yn simbol o gydymdeimlad y radicaliaid Seisnig tuag at dwf yr ymdeimlad chwyldroadol yn Ffrainc. Yn wir ei frwdfrydedd dros ddiwygiadau, yn cyrraedd ei anterth yn ei bregeth nodedig On the Love of Our Country', a gythruddodd Burke i ysgrifennu yn ei gynddaredd ei Reflections on the Revolution in France Damcaniaethol ac a priori ydoedd agwedd Price tuag at broblemau llywodraeth, a barnwyd ef braidd yn hallt am hyn. I Burke amlygai'r agwedd hon holl ddrygau'r dadlau metafìîsegol. Ond yr oedd gan Price bwrpas mewn golwg. Fel Sentar ymddiddorai gryn lawer yn y frwydr i ennill rhyddid crefyddol, ac y mae ei ddadlau dros ddosbarthu hawliau gwleidyddol yn gyfartal yn deillio o'i ymgais i brofi bod gan bawb hawliau dinesig cyfartal. Dadleuodd dros sefydliadau demo- crataidd nid yn unig am ei fod yn credu bod diwygio'r Cyfansoddiad Prydeinig, yn enwedig y mater o gynrychiolaeth yn Nhý'r Cyffredin, yn baratoad hanfodol er sicrhau rhyddid i addoli, ond hefyd am fod rhesymeg ei ddadl dros hawliau cymdeithasol cyfartal yn ei arwain, wrth iddo gymhwyso'r ddadl at faterion gwleidyddol, i annog cyfrif- oldeb gwleidyddol i'r bobl. Sylfaen ei ddadl dros ryddid crefyddol yw bod cydwybod yr unigolyn yn ddigonol ac yn sanctaidd. Mae pob dyn yn uniongyrchol gyfrifol i Dduw am y modd y mae'n ei addoli; dylai pob dyn felly fod yn rhydd i addoli Duw yn y dull mwyaf priodol yn ei dyb ef. Nid oes gan undyn, yn enwedig yr ynad sy'n gweithredu trwy rym gorfod- 1 Diolchaf i Mr. J. Gwynn Williams, Treffynnon, am gymorth gyda'r Gymraeg. 2 Ynglyn ag athroniaeth foesol Price gw. ei Review of the Principal Questions in Morals, a gyhoeddwyd gyntaf yn 1758, argraffiad Raphael, Rhydychen 1948. Ynglyn â'i syniadau gwleidyddol a gyflwynwyd ysywaeth yn llai trefnus, gw. The Works of Richard Price, argraffiad W. Morgan, Llundain, 1816, 10 cyf., yn cynnwys Observa- tions on the Nature of Civil Liberty (1776), Additional Observations(1777), Observations on the Importance of the American Revolution (1784) a'r Discourse on the Love of Our Country (1789), yn ogystal ag amryw o bamffledi a phregethau eraill. Am lyfrydd- iaeth bellach gw. Richard Price, Philosopher and Apostle of Liberty gan Roland Thomas, Rhydychen, 1924, a Torchbearer of Freedom gan Carl B. Cone, University of Kentucky Press, Lexington, 1952.