Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DIWINYDDIAETH RICHARD PRICE1 YR OEDD Richard Price yn nodweddiadol o'i oes yn ei ddiffyg amynedd â manylion cywrain diwinyddol. Nid rhyfedd felly na wnaeth unrhyw gyfraniad pendant i faes brenhines y gwyddorau. Eithr trwy am- ddiffyn hawliau Moesoldeb gwnaeth lawer i buro diwinyddiaeth o'i helfennau anfoesegol ac anrhesymol. Ymddengys mai ei brif ymgais fel awdur crefyddol ydoedd darganfod rhyw fan canol i gyfryngu rhwng sistemau gwrthgyferbyniol Calfiniaeth a Deistiaeth. Nid ystyriai Price fod y naill na'r llall yn gwneud cyfiawnder â dyn fel bod moesol. Tra edmygai eangfrydedd meddwl y Deistiaid, gwrthodai'r athrawiaeth fetaffisegol ddigysur ynglyn â pherthynas Duw â'r byd a ddaeth yn sgîl yr ymosod ar grefydd ddatguddiedig. Yr oedd yr athrawiaeth hon ym marn Price yr un mor benderfyniaethol ac an- foesegol â'r Ddiwinyddiaeth Ragarfaethol yr oedd y mudiad deistaidd mewn rhan yn adwaith yn ei herbyn. Mynnai Price i'r Deistiaid hawlio gormod, a rhy fach ar yr un pryd, dros allu'r gynneddf resymol i brofi gwirionedd crefyddol: gormod-trwy haeru na all cynnwys datguddiad fod y tu hwnt iddi; rhy fach-trwy beidio â sylweddoli bod iddi swyddogaeth foesol, neu ymarferol, yn ogystal â swyddogaeth ddamcaniaethol, ac felly bod a wnelo Rheswm fel maen prawf nid yn unig â rhesymoldeb eithr yn ogystal â moesoldeb credoau cre- fyddol. Yn ei draethawd moesegol, y Review, lle y mae'n achub y blaen ar ddamcaniaeth foesol Kant a'r Sythweledwyr modern, cais Price brofi mai Rheswm yw'r gynneddf sy'n amgyffred gwahaniaethau moesol, ac felly bod i foesoldeb gymeriad tragwyddol a digyfnewid. Arweiniodd ei resymoliaeth ef i drafod perthynas Moesoldeb a Chre- fydd, ac y mae'r hyn a ddywed yn y traethawd, ac yn ei bregethau a'i ohebiaeth, yn hynod o berthnasol i'r ddadl gyfoes rhwng pleidwyr moeseg hunangynhaliol a phleidwyr diwinyddiaeth Barth. Yn yr erthygl hon bwriedir bwrw golwg ar syniadau Price ynglyn â'r pynciau canlynol: (i) Y Bod o Dduw, Ei Briodoleddau a'i Berth- ynas â'r Byd, (2) Person Crist a'i Waith, a (3) Natur a Thynged Dyn. Bid sicr bydd rhaid trafod (2) a (3) gyda'i gilydd. Yn y trydydd argraffiad o'r Review ceir atodiad — •" Traethawd ar Fod a Phriodoleddau Duw." Nis ceir yn yr argraffiadau blaenorol- ofnai Price nas deëllid gan y darllenydd cyffredin oherwydd nodwedd astrus y rhesymu. Esbonia mai ar ôl iddo ei fyrhau a'i symleiddio cryn lawer y penderfynodd ei gynnwys yn y llyfr. Y mae'r Dr. Raphael yn ei argraffiad ef o'r Review2 yn amau a oes cyswllt digon agos rhwng y traethawd hwn a gweddill y llyfr i gyfiawnhau ei gynnwys. 1 Diolchaf i'r Parch. David Morlais Jones, Talybont, am gymorth gyda'r Gymraeg. 2 A Review of the Principal Questions in Morals. Edited with an Introduction by D. Daiches Raphael. C.U.P. 1948.