Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEFNDIR MEDDWL YR AIL GANRIF AR BYMTHEG: RHAI YSTYRIAETHAU O HOLL gyfnodau hanes Cymru y mae'n bosibl mai'r ail ganrif ar bymtheg sy'n adlewyrchu digwyddiadau'r oes gliriaf yn ei llenydd- iaeth, ac unig amcan y sylwadau sy'n dilyn yw sylwi ar rai o'r ad- lewyrchiadau hyn. Nid fel canrif fawr ei chyflawniadau yn llenyddol nac yn feddyliol y mae i'w barnu, ond ynddi hi yn hytrach na'r unfed ganrif ar bymtheg y lluniwyd patrwm bywyd Cymreig y canrifoedd dilynol. Diau y torrwyd ar gwrs y ganrif yn fwy nag y tybir gan y Rhyfel Cartrefol. Pan ddywedai Robert Vaughan wrth Siôn Cain ym mis Chwefror 1645 cann gorchymyn attoch ac at eich cywely a phawb eraill on caredigion, gan dybied pob munyd awr yn drahir hyd oni threfno Duw heddwch yn ein mysg, fal y caffom nid yn unig yn ddiberigl ysgrifennu bawb at ei gilydd, eithr ymdeithio or naill wlad ir llall a siarad wyneb yn wyneb, yr hynn Duw oi ddaioni ai drugaredd ai cenhatto i ni ar frys, yr oedd awgrym clir yn ei eiriau o'r dryllio a fu ar gyfathrach gym- deithasol yn y cyfnod ymhlith arweinwyr naturiol y gymdeithas Gymreig. A phrin fod angen un dystiolaeth ychwanegol at y rhai a gasglodd y Dr. Richards ym mhennod gyntaf ei History of the Puritan Movement am dlodi'r ganrif a'i thywyllwch. Llai adnabyddus, efallai, yw petisiwn Hugh Nanney ac eraill at y brenin tua 1649 yn gofyn am nodded i borthmyn a brethynwyr Cymru, dogfen sy'n cyhoeddi'n groyw mai ansicr a bregus oedd sylfeini economaidd rhannau helaeth o'r wlad.1 Ac fel tystiolaeth arall am gyflwr anllythrennog Cymru nid amhriodol yw nodi fel y gwelodd Stephen Hughes yn dda i ail- gyhoeddi yn τ68τ lyfryn Robert Holland, Tmddiddan Tudyr ag Ronw, i attal y cyffredin Gymru rhag cyrchu at Gonsurwyr, Swynwyr a Dewinesse." Ni pherthyn inni sôn nemor ddim yma am arwyddocâd llyfrau o'r fath yn eu cyfnod-y mae llyfrau Saesneg, fel The Discoverie of Witchcraft (1584), yn bur adnabyddus — ond nid anfuddiol mewn ysgrif fel hon yw nodi cyfeiriad Tudyr at rai o goelion dechrau'r ganrif Aro, Gronw, nis tybiais fod cynnifer celfyddyd a hyn gan y cythrel: nis gwrthwynebir gyda ni dynnu plant rhwng deudan, neu trwy fwa, neu i troi ar eingion y gof, neu i gosod ymmhin neu hoppran y felin, na llawer o gastie eraill o'r fath ac am ddewin, planedydd, brudiwr, daroganwr a'r fath heini, y maent hwy mewn mawr barch a chymmeriad gyda'r gwyr goreu, boneddigion ?.c iangwyr trwy'r holl wlad, yr hyn oedd yn fy nallu i nad oeddwn yn meddwl fod gair Duw yn i herbyn, ond yn hytrach i bod yn wyr da am fod y rhain yn i mawrhau. Ac am swynwyr a swynwragedd, nis gellir fod heb y rheini, y maent hwy yn gwneuthur llawer o ddaioni, 1 Gwir iawn, yn ddiau, yw geiriau Miss C. V. Wedgwood, The people had the free and spontaneous gaiety of those who live in the moment because the next may bring disaster."