Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DOD I OED Daw Efrydiau Athronyddol i'w oed eleni, canys ymddangosodd y rhifyn cyntaf ym 1938. Nid yn y flwyddyn honno y dechreuodd gweithgarwch Adran Athronyddol Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru, oherwydd sefydlwyd yr Adran saith mlynedd cyn hynny. Yn gynnar ym 1931 bu'r diweddar Herbert Morgan a ninnau.mewn pwyllgor o eiddo'r Urdd yn y Rhyl, ac ar y ffordd yn ôl, trafodasom y posibilrwydd o Adran Athronyddol. Gwnaethom gynlluniau ac ym Medi, mewn cyfarfod yn Aberystwyth, ffurfiwyd yr Adran. Ac eithrio rhai blynyddoedd yn y Rhyfel cyfarfu'r Adran yn ddi-dor o 1931 hyd heddiw mewn cynhadledd flynyddol. Nid yw'n rhyfedd fod trafod materion athronyddol yn Gymraeg wedi peri rhywfaint o drafferth i'n haelodau yn y cynadleddau cyntaf. Ein hysgrifennydd oedd y diweddar D. James Jones, a da yw cyd- nabod yn awr ein dyled i'r gwr addfwyn a'r meddyliwr galluog hwnnw a gollwyd mor gynnar. Yn ei nodiadau ar y blynyddoedd cynnar yn rhifyn cyntaf Efrydiau Athronyddol (t. 74) dywedodd, Y mae'n werth sylwi ar un peth yn arbennig. Tueddai'r aelodau pan gyn- hesai'r drafodaeth i droi'n fynych i'r Saesneg, canys yr oedd yn amlwg eu bod yn athronyddu yn yr iaith honno gyda llai o ymdrech, er y byddai eu hymddiddanion cyffredin yn gwbl yn y Gymraeg". Fe gofia'r aelodau hynaf fod hyn yn hollol wir amdanom, ond ni phar- haodd felly yn hir. Yn yr un nodiadau y mae D. James Jones yn dyfynnu o gofnodion 1934-5 Bu rhydd ymddiddan brwd iawn ym mhob un o'r cyfarfodydd, ac nid oes Ie i amau nad yw lefel gwaith y Gynhadledd yn codi o flwyddyn i flwyddyn, a bod athronyddu yn Gymraeg yn gorffwys yn esmwythach o hyd ar feddwl a thafod yr aelodau." Ers blynyddoedd bellach anaml iawn y troesom i Saesneg yn ein cynadleddau, ac ni wêl neb angen Saesneg yn awr gan fod athronyddu yn Gymraeg mor hwylus. Diddorol yw sylwi ar amcanion y gymdeithas pan gychwynnodd ar ei bywyd dros chwarter canrif yn ô1. Rhydd y cofnodion y rhestr ganlynol o amcanion yn gyntaf, cynnal cynhadledd flynyddol yn ail, cyfieithu clasuron athronyddol i'r Gymraeg; yn drydedd, cy- hoeddi cyfrolau achlysurol o erthyglau gwreiddiol o waith aelodau'r Adran; yn bedwaredd, astudio meddwl Cymru yn y gorffennol a'r presennol; yn burned, ymorol am dermau Cymraeg. Gellir honni i'r Adran fod yn ffyddlon i'r weledigaeth gynnar hon, cynhaliwyd cynadleddau blynyddol, cyhoeddwyd yr erthyglau, astudiwyd meddwl Cymru, a daethpwyd o hyd i'r termau Cymraeg yr oedd eu hangen arnom. Mewn un peth yn unig efallai y methasom, sef mewn cyf- ieithu'r clasuron. Y mae'n wir inni gael y cyfieithiadau gwych o Blaton gan Syr Emrys Evans, ond fe erys glasuron athronyddol gan Aristoteles,