Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYDDONIAETH A'R CHWYLDRO MEWN ATHRONIAETH (Araith Llywydd yr Adran Athronyddol, 1956-7) CWESTIWN o ddiddordeb di-ffael i ddyn yw ystyr ac amcan ei fywyd yn hyn o fyd, a'r arfer oedd diffinio problem yr athronydd fel lIe dyn yn y cosmos," neu yn fwy manwl cysoni ffaith a gwerth Yn ôl y syniad traddodiadol, hanfod .athroniaeth yw edrych ar y cread fel cyfanrwydd, a'i nod yw bod mewn cytgord â byd cyfan. Ymgais yw i ddehongli profiad yn ei holl agweddau, a rhydd Ie i grefydd a moes- oldeb yn ei chynllun. Nid ffeithiau yw ei hunig bwnc ond gwerthoedd hefyd. Dyna'r gwahaniaeth rhyngddi a gwyddon- iaeth yn gyffredinol. Gall gwyddoniaeth o'i safbwynt amhersonol ac allanol anwybyddu gwerth pethau, ond ni all athroniaeth. Pwysig yn ei golwg yw'r berthynas rhwng y mewnol a'r allanol, ac yn y diwedd hunan dyn yw'r allwedd i ddatgloi ystyr eithaf realiti. Unochrog a haniaethol yw agwedd gwyddoniaeth tuag at y byd nid oes ynddi ddiben iddi hi ei hun. Moddion yw er cyrraedd diben, a'r diben hwnnw o werth neilltuol. Ond ni ellir dileu gwerth o'n profiad, ac y mae iddo ei Ie yn unrhyw athroniaeth gymeradwy o fyd a bywyd. Soniwn nid yn unig am achosion effeithiol pethau ond hefyd am eu hachosion terfynol, a cheisiwn un egwyddor hollgyn- hwysfawr i gyfannu holl elfennau profiad a'i droi yn gynghanedd drefnus. Dyma elfen ganolog Idealaeth drwy'r oesoedd ysbrydol yw'r cyfanfod yn y gwaelod, a gweithgareddau meddwl neu ysbryd yw ei holl ddigwyddiadau, a chan fod meddwl a gwerth yn anwahan- adwy rhaid esbonio'r cyfanfyd yn y diwedd yn ôl rhyw raddfa o werth neu, yng ngeiriau Platon, yn nhermau Idea o'r Da. Gall codi ad- eiladwaith ar haniaeth fod yn wyddoniaeth dda, ond nid athroniaeth yw. Hanfod athroniaeth yw derbyn y cwbl o brofiad, a dyma ei gwerth. Amddiffyn gwerthoedd a delfrydau bywyd a wna hi, ac felly arwain y ffordd at gartref ysbrydol yn y cread. Cais hi undod lIe y llonyddir pob anghytsain, y distewir pob caos ac anhrefn. Nid yw athroniaeth ond ymgais o du'r meddwl at gyrraedd ei undod ei hun, trwy'r deall, ymhlith amrywiaeth dyryslyd ffenomenau profiad, eto pan lwydda i sylweddoli ei undod daw o hyd i safbwynt sefydlog ar y cread, am fod undod meddwl yn arwain at undod y teimladau a'r ewyllys. Dan undod cyson meddwl, teimlad ac ewyllys, unir holl elfennau ein natur yn un bersonoliaeth gyfan gyson. Nid creu ond darganfod undod a wna'r athronydd. Cais ganfod undod wrth osod ffaith yn ochr ffaith, a'u gadael i ddatguddio eu cyswllt dwfn. Wedi'r datguddiad yma, dylanwedir ar bersonoliaeth yr athronydd gan yr undod, ac adlewyrchir ef yn ei fywyd. Bydd ei fywyd mewn cytgord â'r Anweledig. Gwel ei berthynas â threfn pethau, nad crwydryn