Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ISLWYN BARDD Y FFIN FEL y gweddai i fardd, yr oedd gan Islwyn ei amheuon ynglyn â therfynau sicrwydd Nid ym yn sicr fod yr enaid mawr Yn cyfeiliorni pan y cwyd uwchlaw Holl brofiad dyn o'r cawell hyd y bedd, Gan sisial pethau anhraethadwy. Nid oedd ei barch at yr annelwig yn llai na'i barch at y diamwys, ac fe'i hysbrydolid gan ddyfaliad gymaint ag yr ysgogid ef gan argyhoedd- iad. Y mae'n wir na chyfaddefodd fel Thomas Hardy ei fod hanner ei amser, yn enwedig wrth farddoni, yn credu mewn ysbrydion eithr fe'i denid yntau gan ddiddordebau sy'n wyddonol anhydrin ac yn athronyddol anghymen. Rhoes Ie i dybiaeth yn gyfochrog â ffaith yn ei farddoniaeth. Hwyrach na ellir deall priod weithgarwch Islwyn fel bardd oni chydnabyddir i'r hyn a ddaeth i'w ran fel dyn benderfynu ym mha fodd y defnyddiai farddoniaeth. Y mae bywyd rhai beirdd megis yn cynnig iddynt brofiadau y gellir gwneud barddoniaeth ohonynt; y mae bywyd beirdd eraill yn eu gorfodi i ddisgwyl cael profiadau mewn barddoniaeth. Rhoi gwirionedd i mewn i'w cerddi a wna rhai beirdd eithr dod o hyd i wirionedd wrth farddoni a wna eraill. Bu'n rhaid i Islwyn ddisgwyl llawer iawn gan farddoniaeth am mai drwyddi hi yn unig y medrai wneud synnwyr o'i fywyd. Diau iddo chwilio am fyd gwell o bryd i'w gilydd, ond yr oedd ei awydd i'w gymodi ei hun â'r byd hwn yn bwysicach o lawer na'i ymdrechion i geisio gloywach nen'. Y peth arbennig a ddaeth i ran Islwyn fel dyn oedd y profiad o wahanu. Os cafodd neb erioed achos i feddwl am fywyd yn gyfan gwbl yn nhermau gwahaniad, y llanc a gollodd ei gariad a hwythau ar fin priodi oedd hwnnw. I un yn ei gyflwr, aeth y deuoedd cyferbyniol yr arweiniai colli Ann Bowen ei feddwl o hyd atynt, sef bywyd a marwolaeth, daear a nef, mater ac ysbryd, y presennol a'r gorffennol, yn rhaniadau real iawn, mor real yn wir fel y medrai sôn am boenus wahanolrwydd amser. Ond eto nid cyfrwng ymdeimlo â'r gwahanu oedd barddoniaeth iddo yn unig, ac ni cheisiodd wneud camp o'r cyferbynnu. Nid amcanodd fod yn delynegwr y didoli ychwaith, er bod rhai darnau o'i waith yn profi ddwysed y medrai leisio'r tristwch a oedd yn ei galon. Yn fwy diddorol fyth, nid ymrwymodd wrth unrhyw un gyfran o'r rhaniadau a'i hwynebai, gan ddefnyddio bardd- oniaeth fel offeryn y symleiddio, ac o'r herwydd byddai mor amhriodol ei ystyried fel bardd y nefoedd ag y byddai ei alw'n fardd y ddaear, mor anghywir ei ddisgrifio fel bardd tragwyddoldeb â gwneud bardd hanes ohono.