Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEICOLEG CREFYDD A'R MEDDWL ANNORMAL I LAWER o bobl, ofer fyddai ceisio chwilio am berthynas rhwng Seicoleg a Chrefydd. Credwn ni y gellir cyfaddasu'r modd gwyddonol at astudio'r ffordd y mae-dyn yn ymddwyn a meddwl pan ddaw wyneb yn wyneb â ffenomenau a gwirioneddau crefyddol. Nid dyletswydd y seicolegydd ydyw rhoi barn ar fodolaeth Duw. Perthyn y gwaith hwnnw i Athroniaeth Crefydd. Er hynny, y mae'n bosibl i seicolegydd chwilio pa faint y mae'r syniad am Dduw yn dylanwadu ar feddwl ac ymddygiad dyn, a pha oleuni y mae ein gwybodaeth am weith- rediadau'r meddwl yn ei daflu ar arferion crefyddol dyn. Gellir defnyddio seicoleg i weld beth yn ein crefydd sy'n dod o feddwl dyn a'i anghenion ei hunan, a beth sydd yn dod o'r tu allan iddo. I Y mae llawer ffordd o gael gafael yn y ffeithiau a fydd o help inni yn yr astudiaeth hon. Er enghraifft, gellir chwilio i mewn i lenydd- iaeth grefyddol a bywgraffiadol, yn enwedig i brofiad y cyfrinwyr. Yn fynych gwelwn fod llenyddiaeth yn egluro ac esbonio mannau tywyll ym mhrofiad a meddyliau dyn. Y mae eraill wedi casglu ffeithiau o ddiddordeb drwy wahodd pobl neilltuol i ddisgrifio'u teimladau a'u meddyliau mewn perthynas â rhyw bwnc neilltuol. Y mae mwy nag un seicolegydd o fri wedi casglu ei ffeithiau drwy roi cwestiyneb i bobl neilltuol, a seilio ei ganlyniadau yn llwyr ar yr atebion a gafwyd. Fel hyn y gweithiodd E. D. Starbuck, un o arloes- wyr astudiaeth Seicoleg a Chrefydd hanner canrif yn ôl. Ond nid yw pawb yn cytuno ynglyn â gwerth y modd hwn. Dywed yr Athro Grensted Religion is a field in which controlled experiment is unthinkable. The one or two studies which have been published have been quite ineffective. (Psychology of Religion, tud. 70.) Yn y blynyddoedd diwethaf, y mae llawer wedi dod o hyd i wirion- eddau diddorol ynglyn ag arferion, credoau, ac agweddau crefyddol drwy astudio ystadegau crefyddol. Yn nhyb rhai ni fyddai'n deg astudio'r bersonoliaeth annormal fel modd o gasglu ffeithiau, gan fod cymaint o wahaniaeth rhwng y meddwl normal â'r meddwl annormal. Credwn ni, gyda Freud ac eraill, fod pob unigolyn yn mynegi egin tueddiadau annormal yn ei fywyd meddyliol, os nad ydynt i'w gweld yn amlwg. Ar y tudalennau canlynol, disgrifir ymchwil a wnaethpwyd i geisio deall syniadau crefyddol y bersonoliaeth annormal. O ddeall beth yw nodweddion crefyddol y bersonoliaeth hon, gallwn weld beth yw tueddiadau'r dyn cyffredin.