Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y BYWYDEGWR A'I GYMDEITHAS HEDDIW ACHLYSUR nodedig iawn yr haf diwethaf oedd dathlu, yn Llundain a Folkestone, drichanmlwyddiant marwolaeth y meddyg enwog Wil- liam Harvey (1578-1657). Yno clywsom arweinwyr meddygol a gwyddonol o bob rhan o'r byd yn talu teyrnged i athrylith a chyraedd- iadau'r gwr nodedig hwn. Yr oedd yn amlwg y cyfrifid ef fel y prif arloeswr yn y byd bywydegol yn ei ddydd, ac fel y gwir arweinydd allan o dywyllwch a chwedloniaeth yr Oesoedd Canol, oherwydd ei waith yn sefydlu'r dull arbrofol o weithio. Ac er mor rhyfeddol oedd darganfyddiadau Harvey un ac un, ei gyfraniad pwysicaf oedd dull newydd ö wynebu anawsterau gwyddonol — myfyrio, arbrofi drosodd a throsodd ac yna tynnu casgliadau. Mae stori ei fywyd yn ddiddorol dros ben, ond nid dyma'r cyfle i'w hadrodd. Cefais hefyd y fraint o dderbyn gwahoddiad i'r Gynhadledd Athron- yddol yn Harlech ddiwedd Awst, ac yno bu trafodaeth fyw ar brob- lemau'r biolegydd y dyddiau yma. Mae'n sicr mai symbyliad o ddau Ie gwahanol iawn i'w gilydd — Llundain a Harlech-a barodd i mi feddwl ymhellach am y pethau hyn. Meddyg wyf, ac fel y rhan fwyaf o'm cyfoedion, ni chefais y cyfle i feithrin disgyblaeth feddyliol yr athronydd, ac nid oes gennyf wybodaeth eang ym myd bywydeg. Rhaid cyfaddef fod peth amheuaeth ymha Ie y dylid gosod meddyg- aeth-ai gwyddor ynteu celfyddyd ydyw ? Dipyn o'r ddwy, mae'n debyg, yw'r ateb. Fe ymddengys fod yr hen deitl parchus, The Art of Medicine, yn mynd yn llai addas, ac fe roddir pwyslais cynyddol ar derm mwy priodol, Clinical Science, yn ddiweddar. Felly 'rwy'n bwriadu defnyddio'r gair bywydegwr ar ben yr ysgrif yma yn ei ystyr ehangaf. Mae'n amlwg ddigon fod problemau'r biolegydd yn ymestyn i feysydd cyfagos, a theimlaf, fy hunan, fod meddygaeth a gwyddoniaeth yn gyffredinol yn wynebu'r un anawsterau. Mae rhai agweddau ar broblemau'r biolegydd yn gyffredin, i raddau helaeth, i bob dosbarth o archwilwyr; ac er yr oll orchestion datrysol, y mae nifer y problemau yn amlhau, a'u cymhlethdod yn cynyddu'n ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rhai o ddyrysbynciau mwyaf hanfodol yr oes hon yn dal perthynas agos iawn â bywydeg a meddygaeth; i enwi dwy yn unig-problern porthi dynolryw, a phroblem gorboblogaeth,-a'r ddwy yn bwgwth ein goddiweddyd yn brysur. A dyna'r pedwar rhyddid y sonnir cymaint amdanynt: rhyddid oddi wrth ofn, rhyddid oddi wrth newyn, rhyddid i weithio a rhyddid i addoli; onid yw sylweddoliad y rhai hyn yn dibynnu'n drwm ar yr un gwyddorau ? Fe gofir, mae'n sicr, y dyfyniad o un o weithiau John Donne No man is an Iland, intire of it selfe, every man is a peece of the Con- tinent, a part of the maine." Ac fe ymddengys i mi fod hyn yr un mor