Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU Y GELFYDDYD LENYDDOL YNG NGHYMRU, gan Huw Morris-Jones. Lerpwl Gwasg y Brython, 1957 tt. 119. I Yr ydym yn ddyledus i Mr. Huw Morris-Jones am gyhoeddi'r casgliad hwn o astudiaethau ar agweddau o'r gelfyddyd lenyddol yng Nghymru. Y mae yn llyfr beirniadol ac awgrymog yn wir carwn yn fawr pe buasai'r awdur wedi datblygu rhai o'r syniadau craff, fel y syniad ar dudalen 38 er enghraifft Gwelir medd ef amrywiaeth o gyfnod i gyfnod yn y ffordd y bydd dynion yn meddwl ac yn teimlo. Y mae'r artist ei hun weithiau'n achosi cyfnewid- iad; bryd arall y mae'n adlewyrchu'r cyfnewidiad sy'n codi o resymau eraill. Dyna'n hanfodol yr hyn a ddigwyddodd yng Nghymru o ganol i ddiwedd y ganrif ddiwethaf." Syniad bachog, a byddai triniaeth weddol fanwl yn rhwym o daflu golau nid yn unig ar syniadau'r oes a pherthynas llenyddiaeth ag athroniaeth, crefydd a chymdeithas, ond ar y safonau llenyddol a dderbyniodd y llenorion a'r beirdd. Yn anffodus nid oedd cyfle efallai i ddatblygu'r gos- odiad. Ond y mae digon i'n bodloni yn yr astudiaethau hyn, a digon o ddeunydd trafodaethau brwd ym mhob pennod. Dylai'r llyfr fod yn llaw myfyrwyr dosbarthiadau allanol, ac yn arbennig dylai fod yn rhan o raglen waith aelodau'r chweched dosbarth sy'n astudio Cymraeg yn yr ysgolion gramadeg — byddai'n ychwanegiad at eu gwybodaeth ac yn agoriad llygad iddynt sut i ymagweddu tuag at feirniadaeth lenyddol. Am mai casgliad o astudiaethau amrywiol yw'r llyfr byddai'n annheg ei feirniadu am nad yw'n datblygu'r syniadau yn gyson ac yn rheolaidd o'r dechrau i'r diwedd, ac am fod ynddo ailadrodd a pheth gwrth-ddweud. Er hynny, manteisiaf ar y cyfle i annog rhywun cymwys i ymgymryd â'r gorchwyl ac i roi i ni drafodaeth gyflawn a rheolaidd yn Gymraeg ar seiliau ac egwyddorion estheteg. Rhed dau linyn drwy'r trafodaethau, a chymhwysir y driniaeth ohonynt at gyflwr llenyddiaeth yng Nghymru. Cais yr awdur yn gyntaf drafod natur barddoniaeth, Beirniada a gwrthyd yn eu tro dair damcaniaeth am swyddog- aeth llenyddiaeth — darlunio'r byd, mynegi profiad, a gwneud argraff ar feddwl y gwrandawr neu'r darllenydd. Y mae'n drafodaeth ddiddorol ac er ei bod o reidrwydd yn tueddu i fod yn ystrydebol y mae'n ddefnyddiol i'r anghyf- arwydd, a hyd yn oed i'r cyfarwydd; ni all lai nag amlinellu'r maes yn daclus. Yn ei dro cynigia'r awdur dair egwyddor y myn ef eu bod yn sylfaenol i len- yddiaeth. Yn gyntaf, y mae'n dadlau mai celfyddyd yw barddoniaeth — ac, am a wn i, ni chais neb wadu'r gosodiad hwn. Er hynny y mae'r awdur ei hun yn ei chael hi'n anodd i fod yn gyson wrth drafod y broblem. Mewn un man dywed Y mae eisiau dadlau arnaf bod gwahaniaeth hanfodol rhwng crefft a chelfyddyd." Ond mewn pennod arall dywed mai gorchest celfyddyd yw ei bod yn dechrau fel crefft ond yn codi uwchlaw iddi." Sut y mae un weith- garedd sy'n ddatblygiad o weithgaredd arall yn hanfodol wahanol iddi hi ? Ond beth bynnag am hynny fe fydd llawer yn ein dydd ni yn barod i wrthod yr ail honiad. Sieryd yr awdur am Ragdybiaeth sylfaenol sef ein bod i werthfawrogi celfyddyd er ei mwyn ei hun. Yr unig werth a berthyn i farddoniaeth yw ei rhin fel barddoniaeth," a dywed fod modd i ddyn feddwl a theimlo fel bardd." I'r graddau y derbyniwyd y syniadau esthetig hyn yn y gorffennol, i'r graddau hynny hefyd yr aeth llenyddiaeth i ddwylo llenorion dilettante megis Wilde a Pater, — ArtforArt's sake. Hyd yn oed pe cytunid mai'r pennaf werth a berthyn i farddoniaeth yw ei rhin fel barddoniaeth y mae'n