Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CONTEMPORARY BRITISH PHILOSOPHY. Personal Statements, Third Series. Edited by H. D. Lewis, London Allen and Unwin, 1956 tt. xiv, 501. Pris 35s. Cyhoeddir y gyfrol hon ar gyfer y Muirhead Library of Philosophy," ac ynddi ceir erthyglau o waith ugain athronydd Prydeinig cyfoes a gasglwyd gan yr Athro H. D. Lewis. Fel y dywaid y golygydd yn ei ragair, gwahoddwyd y cyfranwyr hyn i fynegi pa un a dybient hwy yw problem ganolog athroniaeth ac i egluro cnewyllyn eu myfyrdod arni. I'r gwahoddiad ceir ymatebion amryw- iol. Sylwi a wna'r Athro Paton mewn dull hunangofiannol ar dueddiadau cyfnewidiol athroniaeth yr hanner canrif diwethaf, ymdrinia'r Athro Copleston a'r Dr. Waismann ag amcanion arbennig athroniaeth, fel y maent yn ymddangos iddynt hwy; pledia'r Dr. Ewing dros fetaffiseg, amlinella'r Athro Hodges y rhagdybiau sydd yn ei dyb ef yn sail i ddiwinyddiaeth athronyddol, trafoda'r Athro Popper dair damcaniaeth gystadleuol ynglýn â natur gwybodaeth wyddonol, ac archwilia'r Athro Ayer ddulliau gwahanol o geisio gwrthwynebu'r amheuwr athronyddol. Tra bo'r athronwyr hyn yn ymdrin ag amcanion neu statws athronyddu yn gyffredinol, eglura'r lleill gynnwys a method ymchwil athronyddol trwy ddelio â phroblemau arbennig. Ceir yma amrywiaeth fawr o bynciau a dulliau o'u trin sy'n egluro ehangder ac egni'r dadleuon cyfoes. Ysgrifenna'r Athro Barnes a'r Athro Ryle ar ddadansoddiad synhwyro. Dadleua Ryle fod y rhai sy'n defnyddio'r syniad technegol o argraffiadau'r synhwyrau er mwyn egluro natur canfyddiad ar goll oherwydd y camgymer- iadau canlynol (a) tybio bod adnabyddiaeth ganfyddiadol yn cynnwys rhes- ymau casgliadol sy'n gofyn am datwm,' a (b) rhagdybio bod argraffiadau synhwyrol yn angenrheidiol fel dolen gydiol mewn cadwyn esboniad yn nhermau achos ac effaith. Gellir osgoi y gwallau hyn os cymerir gweled fel cyfeiriad at gyflawniad ac nid at broses. Beirniedir cymhwysiad Ryle o'r gwahaniaeth- iad hwn at weled a chlywed gan yr Athro Barnes a dadleua ef mai gwell eu hystyried fel geiriau'n mynegi profiadau yn hytrach na chyflyrau neu ddat- blygiadau neu gyflawniadau sy'n weladwy o'r tu allan. Y mae'r ffordd hon o drin y broblem yn caniatáu unwaith eto inni roi gwerth ar rywfaint o anghy- hoeddusrwydd yn y dadansoddiad o synhwyro. Trafodir ewyllys rydd gan yr Athro Campbell a Mr. Mabbott. Amcanion Campbell ydyw gwrthbrofi dadl Hume mai rhith yw'r hyn a dybir sy'n ym- wybod goddrychol o weithgarwch ewyllysiol effeithiol a dadansoddi'r gwahanol fathau sydd hysbys o weithgarwch a gyfeirir gan yr hunan. Pwysleisia'n arbennig y gwahaniaeth rhwng yr hunanweithgarwch mynegiadol sy'n nod- weddu ewyllysio cyffredin a'r hunanweithgarwch creadigol a geir mewn pen- derfyniad moesol. Beirniada Mr. Mabbott honiadau diweddar y rheidiolwyr nad oes gyfrifoldeb moesol na chyfiawnhad i gosb heb reidioliaeth. Archwilir gan yr Athro Acton yr amodau y mae'n rhaid eu cyflawni er mwyn gwneud cyfiawnhad gwleidyddol yn bosibl. Dadleua, lle bo anghytun- deb rhwng dwy blaid, cyn y gall y naill gyfiawnhau ei hymddygiad yng ngolwg y 11a11 rhaid gwneud hynny yn unol ag egwyddorion sy'n gyffredin rhyngddynt. A ymlaen i archwilio'r ymhlygiadau o geisio sylfaenu'r fath gytundeb trwy apelio at y gyfraith arferol, at egwyddorion y gyfraith naturiol, at y gydwybod unigol, ac at y syniad o ddaioni cyffredinol. Trafoda'r Athro L. J. Russell y berthynas sydd rhwng gweithgarwch ymarferol â syniadau damcaniaethol, a dadleua dros y gosodiad mai syniadau mwyaf derbyniol unrhyw oes ydyw'r rheini sy'n cynnal prif sefydliadau cymdeithasol y cyfnod. Trafoda'r Athro Aaron reswm a phrofiad a deil na ddylid meddwl amdanynt fel petaent yn gwbl annibynnol ar ei gilydd. Ac er iddo anghytuno â gosodiad Mill mai cyffredinoliadau o brofiad ydyw egwyddorion rhesymegol eto fe fynn