Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL EIN hamcan yn y rhifyn hwn yw dadansoddi'r syniad o genedligrwydd. Yn naturiol y genedl Gymreig a ddaw'n gyntaf i'n meddwl a chenedl- igrwydd y Cymry yw prif fater yr astudiaethau a ganlyn. Eto, cyf- eirir yn aml at genedligrwydd cenhedloedd eraill a diddorol yw'r gymhariaeth â'u cenedligrwydd hwy. Ceisiwn gadw mor agos ag sy'n bosibl i'r diriaethol; serch hynny amlygir hefyd yn yr efrydiau canlynol yr egwyddorion haniaethol a chyffredinol hynny a ddeil yn wir am bob cenedligrwydd. Mae'n wir fod barnau amrywiol yma a llawer syniad gwreiddiol newydd, ond y mae haen o gytundeb hefyd a hynny ar y materion pwysicaf. Gobeithiwn y bydd astudio'r erthyglau hyn yn gymorth i ddeall yn well natur un o'r pwerau cryfaf yn ein bywyd heddiw. Collwyd un o'r cedyrn o blith athronwyr Cymru pan fu farw DAN DAVIES yn sydyn yn ei gartref ar 19 Hydref, 1960. Ganed ef yn Llan- dysul ar I Rhagfyr, 1893, ac addysgwyd ef yn ysgolion y dref. Un o'i gyd-fyfyrwyr yn Ysgol Ramadegol Llandysul oedd John Hughes, Montreal, a chlywsom yr athro hwnnw yn canmol arabedd a galluoedd anghyffredin ei gyfaill. Wedi dyddiau ysgol treuliodd flwyddyn yn y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Aberystwyth i astudio Athroniaeth, dan ofal Jenkyn Jones. Wedi graddio â'r clod uchaf ac ennill M.A., gwnaethpwyd ef yn Gymrodor o'r Brifysgol ac aeth i Glasgow i ddosbarthiadau Syr Henry Jones am ddwy flynedd. Clywsom ef yn sôn yn aml am Syr Henry Jones. Beirniad llym iawn o athronwyr ei ddydd oedd Dan Davies, ac yn wir beirniada Syr Henry. Efengyl i'w phregethu oedd Idealaeth i Syr Henry, meddai, yn hytrach na system i'w dadlau'n rhesymol. Get a faith, Davies whatever you do get a philosophic faith." Ond er gweld y diffyg hwn yn ei athro, fe'i hedmygai'n fawr, a hyd ddiwedd ei oes siaradai'n annwyl iawn amdano. Daeth yn ôl i Aberystwyth yn 1922 ac yno y bu am gyfnod maith o 37 mlynedd. Gwnaethpwyd ef yn Brif Ddarlithydd yn 1950 ac am flwyddyn, 1952-3, gweithredodd fel pennaeth yr Adran. Priododd Sarah Williams o Landdarog a bu hithau'n gymorth mawr iddo. Bu iddynt un mab, Paul, sydd yn feddyg. Er bod Dan Davies yn ddarllenwr dyfal ar hyd ei oes ac yn wirion- eddol hyddysg yn y symudiadau athronyddol diweddaraf, ni chyhoedd- odd lawer, a hynny am ei fod yn feirniad llym iawn o'i waith ei hun. Nid fel ymchwiliwr nac fel ysgrifennwr y bydd ei gydnebydd yn ei gofio ond fel athro tra galluog. Y mae'n wir fod y berthynas rhwng ei fyfyrwyr a Dr. Dan', fel y'i galwasant, yn un hynod ac anghyffredin.