Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYSYLLTIAD IAITH A'R YMWYBYDDIAETH GENEDLAETHOL Caru'n Ffrangeg, canu'n Eidaleg, marchnata'n Saesneg, darlithio'n Almaeneg, ffraeo efo'r wraig yn y dafodiaith — nid yw'r darlun hwn o un o ddinasyddion Basel yn un cwbl ffansiol. 0 leiaf, y mae'n debyg o siarad dwy o'r ieithoedd hyn yn naturiol, ac un neu ddwy o'r lleill yn rhugl. Y dafodiaith, bid sicr, yw'r agosaf at ei galon, ond cymharol dlawd yw ei thraddodiad llenyddol, ac yn Almaeneg y daw prif drysorau ei hanes a'i ddiwylliant yn fyw iddo. Yr Almaeneg hefyd sydd yn ei bapur newydd ac ar wefusau ei bregethwyr, gan amlaf drwyddi hi y gofynnir iddo dalu ei dreth incwm ac i dalu yn y siopau ond yn y dafodiaith y bydd yn gofyn am y nwyddau. Bydd yn derbyn hysbysiadau oddi wrth y llywodraeth ffederal mewn tair iaith (Almaen- eg, Ffrangeg, Eidaleg), weithiau mewn pedair (gan ychwanegu Romansch). Yn wir, yr unig iaith sydd yn ddistaw yw iaith ei genedl, ac y mae hi ar ôl am nad yw hi'n bod. Yn gyffredin cyfrifir y Swistir yn eithriad pendant i'r gosodiad cyffredinol fod iaith a chenedl yn cydredeg. Ond tybed a yw'r sefyllfa yno mor eithriadol, o'i hystyried yng ngoleuni hanes ? Onid peth newydd braidd yw'r cysylltiad rhwng iaith a chenedligrwydd ? A pha genedligrwydd a olygir ? Nid oes amheuaeth yn ein meddyliau ni am ein cenedligrwydd Cymreig, ond beth am ein cenedligrwydd Prydeinig ? A yw peth felly'n bod, yn amlygu ei hun mewn pedair neu bump o ieithoedd, a'r Gymraeg yn un ohonynt ? Ac yna beth am genedligrwydd Cymreig y rhai di-Gymraeg yng Nghymru ei hun ? Rhaid ciesio ateb y mwyafrif o'r cwestiynau hyn maes o law, ond yr ydym fel Cymry yn rhy groendenau ynglyn â'n problemau ieithyddol i ddod atynt heb ysgwyd ein plu yn gyntaf, a phigo ychydig ar hanes ieithoedd eraill. Heddiw, yn sicr, y mae iaith yn cyfrannu'n helaeth i'r ymdeimlad o genedligrwydd yn y mwyafrif mawr o wledydd. Ond nid yw'n ddigon ynddi ei hun i greu cenedl ni wnaeth genedl o Fasciaid Sbaen a Ffrainc, nac o siaradwyr Iwcreneg Rwsia, Gwlad Pwyl, Rwmania, Tsieco-slofacia, Iwgoslafia. Dibynna'r ymdeimlad o genedligrwydd ar gymysgedd o darddiad cyffredin, iaith, daearyddiaeth, sefydliadau gwleidyddol, arferion a thraddodiadau, crefydd, y cyfan yn creu rhyw ymwybyddiaeth o wahaniaeth. Ar un olwg, casgliad o ragfarnau a damweiniau yw cenedligrwydd. Nid peth yn sefyll yn ei unfan yw y mae'n datblygu ac yn newid o hyd. Creadigaethau hanes, ac nid natur, yw cenhedloedd dyna a gyfrif am eu cymhlethdod. Nid yw'r genedl Americanaidd yr un heddiw ag y bu yn oes Lincoln a pheth digon newydd yw'r ymdeimlad o genedligrwydd Sofietaidd sy'n llithro'i mewn yn Georgia neu Wsbecistan. Un elfen yn unig yn y cyfnewidiad yw iaith.