Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENEDLIGRWYDD A CHREFYDD Y mae nifer o anawsterau sydd yn rhaid eu crybwyll cyn trafod y pwnc dyrys hwn. i. Dywed Lecky mai gwladgarwch a chrefydd yw'r ddau allu moesol a ddylanwadodd fwyaf ar ddyn. Ond y mae perygl wrth neilltuoli'r rhain anghofio'r clymau eraill sydd yn rhan o rwymyn bywyd. Mae'n wir fod perthynas dyn â thragwyddoldeb ac â'i genedl yn symbyliadau grymus iawn yn enwedig mewn rhai argyfyngau. Ond y mae rhwymyn bywyd yn fwy cymhleth a rhaid i ddyn ddyfod i deleiau â'i waith y mae ei berthynas â'i gyd-weithwyr a'i gyflogwyr yn cyflyrru ei foesoldeb. Yn wir, yn ein hoes ni, fe ellir dadlau fod y rhain yn gryfach eu dylanwad ar ymwybod dyn a'u bod yn codi problemau i'w genedligrwydd a'i grefyddolder. Disgyblaeth dwyllodrus a geisiai drafod cenedligrwydd a chrefydd fel yr unig elfennau neu hyd yn oed y rhai pwysicaf mewn bywyd. 2. Yr ail anhawster yw diffinio'r ymwybod o genedligrwydd. Byddai'n haws trafod perthynas crefydd a'r wladwriaeth. Y mae cenedligrwydd yn fwy annelwig: rhyw ymwybod anymwybodol, megis, ydyw. Pan ferwo i'r ymwybod, o achos trais neu argyfwng neu ddieithrwch mynegiant negyddol sydd iddo yn aml, ac y mae'r mynegiant hwnnw wedi ei gymhlethu â diddordebau eraill, e.e., gall protest yn erbyn trais gymryd ffurf wladgarol a deffro ymdeimlad o genedlgarwch. Anodd penderfynu ai cenedligrwydd neu'r brotest yn erbyn trais yw'r ysgogiad gwreiddiol yn aml. Ffyrnigodd proffwydi gwladgarol yr Hen Destament fwy yn erbyn trais o fewn eu cenedl nag yn erbyn gorthrwm cenhedloedd eraill. A dywedodd un o'r cenedlaetholwyr puraf fod y galon ddynol yn llawn twyll. 3. Y trydydd anhawster yw diffinio crefydd. Y mae iddi gynifer o ffurfiau a lliaws o'r rheini wedi codi o ffactorau eraill mewn cenedl a chymdeithas. Ond golyga o leiaf fod dyn yn dibynnu ar fyd anweledig neu fod sydd â'i hanfod ynddo ei Hun. Gall hyn fod yn anymwybodol fel rhan o awyrgylch cymdeithas, y rhagdybiadau a gymerir yn gania- taol neu gall fod yn argyhoeddiad personol sydd yn meddiannu dyn yn llwyr; gall fod yn gwlt y mae dyn yn gyfrannog ohono neu yn brofiad yn enaid dyn unigol. Er bod y ffurfiau yn amrywiol, gellir rhannu crefyddau'r byd yn ddau ddosbarth cyfleus. Y mae rhai crefyddau yn ymwadu â'r byd ac yn ystyried popeth gweledig yn rhith. Yn ôl y rhain nid oes ddim diben i hanes a dim ystyr i'r ymwybod cenedlaethol. Rhan o gylchdro pechadurus profiad yw cenedligrwydd a nod crefydd yw galluogi dyn i dorri allan o'r rhod. I grefydd arallfydol nid yw hanes cenedl mwy nag unrhyw hanes arall o unrhyw bwys.