Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENEDLIGRWYDD FEL PHENOMEN ANTHROPOLEGOL Os trown i Eiriadur Prifysgol Cymru gwelwn mai'r diffiniad o genedligrwydd ydyw bodolaeth fel cenedl, cenedlaetholdeb, gwladgarwch, carennydd a'i fod yn gyfystyr â nationality a nationalism yn Saesneg. O droi wedyn at ystyr y gair cenedl- aetholdeb cawn y diffiniad hwn, yr ymdeimlad ag arbenigrwydd cenedl polisi gwleidyddol er mwyn sicrhau annibyniaeth genedl- aethol." Y mae'r ymdeimlad hwn o gariad at ddaear gwlad arbennig, at draddodiadau hynafiaid, ac o ymostyngiad i awdurdod gwladol arbennig yn hen yn hanes dynion. Yn y cyswllt hwn cofiwn am yr Iddewon (" os anghofiaf di, O Jeriwsalem, anghofied fy neheulaw ganu "), am yr Eifftiaid, ac am y Groegiad gyda'u sarhad ar y "barbar- iaid" ethnig. Ond er i'r ymdeimlad hwn ysgogi dynion i raddau mwy neu lai drwy holl gyfnodau Hanes, gwir ydyw dweud mai o ddiwedd y Ddeunawfed Ganrif ymlaen, yn arbennig y daeth yn bwer llywodraethol ym mywyd y cenhedloedd. Oddi ar y pryd hynny y teimlad hwn ydyw un o'r ffactorau pwysicaf a fu'n llywio cwrs hanes y byd. Ein tasg ydyw ceisio penderfynu a oes sail anthropolegol i'r ymdeimlad hwn a'i fynegiad ym mywyd cymdeithasol pobloedd y byd. Cyn manylu, fodd bynnag, y mae'n rhaid inni hefyd ddiffinio'r term anthropolegol Ar un olwg y mae'n gyfled â'r ddynoliaeth yn ei holl ymddangosiadau a'i gweithgareddau, ond yn yr ysgrif hon bwriadaf ganolbwyntio ar un agwedd yn unig ar anthropoleg, hynny yw, ar yr agwedd physegol. Y mae'n amlwg i bawb bod gwahaniaethau mawr yn nodweddion corfforol teuluoedd dynion a thalwyd cryn sylw gan arbenigwyr i'r priodoleddau anthropolegol hyn. O'r astudiaethau yma y tarddodd y syniad am rannu dynion yn hiliau. Felly ystyried a oes gysylltiad rhwng hil a chenedligrwydd a wnawn yn awr. Ddwy ganrif yn ôl aeth Syr William Jones i'r India ac yno dech- reuodd astudio ieithoedd y wlad honno. Yn hollol gyfreithlon rhoddodd yr enw Aryaidd ar un grwp o'r ieithoedd hyn. Ganrif yn ddiweddarach, yn Rhydychen, derbyniodd Max Müller y dosran- niad ieithegol hwn ond fe aeth hefyd gam ymheUach — soniodd am hil arbennig* o ddynion a siaradai'r ieithoedd hyn. Tua'r un amser, hefyd, cyhoeddwyd y syniad am y cysylltiad agos rhwng cenedl a hil gan y Ffrancwr, Gobineau, yn ei lyfr, Anghyfartaledd yr Hiliau Dynol". Yna, tua dechrau'r ganrif hon, datblygodd y Sais, Houston S. Chamberlain, yn yr Almaen, y syniadau hyn am hil i raddau mwy eithafol fyth, a hynny yn bennaf yn ei lyfr, Sylfeini'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg". *Gwadodd Müller y cysylltiad hwn rhwng iaith a hil ar ôl hyn ond ni thalwyd fawr o sylw i'r gwadu gan nad oedd hynny yn cydweddu â'r hyn y carai llawer, bellach, ei gredu.