Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SYLWADAU AR GYSYLLTIADAU ECONOMAIDD CENEDLIGRWYDD Y mae'r pwnc hwn braidd yn eang, ac ni thrafodir ond rhai agweddau arno yn y papur hwn. Y dasg gyntaf yw diffinio'r agweddau hynny. CENEDL A CHENEDLIGRWYDD Gallwn ni drafod cenedligrwydd o ddau safbwynt fel ffaith gymdeithasol, wrthrychol, ac fel ymdeimlad goddrychol yn yr unigolyn. Yr 'wyf am ddiffinio cenedl fel cyfundod o bobl, gyda'i lywodr- aeth ei hun, neu'r cof neu'r dyhead amdani, mewn tiriogaeth arbennig, gyda'i hanes a'i ddiwylliant, a'i sefydliadau a'i fuddiannau arbennig yn sail i unoliaeth teimlad ac ewyllys i fyw ar wahân i bobloedd eraill. Cyfanswm y nodweddion gwahaniaethol hyn yw cenedligrwydd ffenomen cymdeithasegol, gwrthrychol. Tyf yr unigolyn, fel arfer, mewn cymdeithas a chanddi'r nodwedd- ion hyn. Daw'n ymwybodol o ryw berthynas arbennig rhyngddo ef a'i genedl, yr un modd â rhyngddo ef a'i deulu. Dyma'i ymwybydd- iaeth â'i genedligrwydd, yr ymdeimlad goddrychol o berthyn i genedl. Yn y cyfnod diweddar, daeth y genedl, a chenedligrwydd yn sail naturiol y wladwriaeth a threfniadau gwleidyddol y byd. O safbwynt y gyfraith, ni chydnabyddir cenedligrwydd nes ei ymgorffori mewn gwladwriaeth. Yn ôl y gyfraith, er enghraifft, deiliad Prydeinig yw'r Cymro, ac nid oes y fath beth â chenedligrwydd Cymreig, gan nad oes dim llywodr- aeth Gymreig na dim cyfraith Gymreig. Y mae llawer o leiafrifoedd ac ymwybyddiaeth genhedlig ganddynt, mewn sefyllfa debyg. Nid yw cenedligrwydd yn gyflawn yng ngolwg y byd, felly, heb wladwriaeth yn gysylltiedig ag ef; ond gall cenedligrwydd ym- ddatblygu heb fynegiant gwleidyddol na chydnabyddiaeth gyfreithiol. Mewn amgylchiadau o'r fath, gellir disgwyl i genedlaetholdeb dyfu, sef ymdrech i gryfhau sefydliadau cenedligrwydd, dan gynnwys, fel arfer, ymgais i godi gwladwriaeth genedlaethol. DIFFINIO'R PWNC I drafod cysylltiadau economaidd cenedligrwydd, rhaid felly inni ystyried y genedl-wladwriaeth, a'r genedl ddi-wladwriaeth anghyflawn. Yr agweddau arbennig ar y pwnc a fydd dan sylw yma yw'r elfennau economaidd yng nghyfansoddiad cenedligrwydd, seiliau economaidd yr ymwybyddiaeth genhedlig yn yr unigolyn, ac yn sefydliadau gwlad. Hynny yw Beth yw cenedl o'r safbwynt economaidd ? Beth yw'r nerthoedd a'r ystyriaethau economaidd sy'n achosi ymlyniad dyn wrth ei genedl, ac sy'n ffurfio cenedl a'i rhwymo wrth ei gilydd ? Pa ffactorau economaidd sy'n cynnal cenedligrwydd,