Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'YNG Nghymru y cyfnodau bywiocaf yw'r cyfnodau mwyaf Ewrop- eaidd.' Dyma ddiweddglo Pennar Davies i'w erthygl yn y rhifyn presennol o Efrydiau Athronyddol. Os yw hyn yn wir, ac y mae lIe i gredu ei fod, dylid rhoddi mwy o sylw i ddylanwad Ewrop arnom nag a roddir yn gyffredin. Cymru ac Ewrop Beth a olygodd Ewrop i Gymru ? Mewn erthygl gynhwysfawr yn y rhifyn hwn y mae Myrddin Lloyd yn dethol y dylanwadau pwysicaf. Gofyn yn gyntaf pa beth yw Ewropeaeth, ac yna fe astudia'r trai a'r llanw a fu yn nylanwad Ewropeaeth arnom mewn gwahanol gyfnodau o'n hanes. Barna mai yn y ddeunawfed ganrif y bu'r trai fwyaf, y ddeunawfed ganrif yw'r mwyaf Seisnig ei hagwedd yn ein holl hanes'. Fe fu Ewrop yn dylanwadu'n drwm arnom drwy'r ganrif ddiwethaf. Dengys Alun Davies fel y dysgodd y Cymry eu radicaliaeth o'r mud- iadau rhyddfrydig hynny a ddeilliodd o'r Chwyldro Ffrengig, ac fel y dysgasant hefyd egwyddorion cenedlaetholdeb a oedd ynghlwm â'r radicaliaeth mewn llawer gwlad. Cenedlaetholdeb gwahanol yw cenedlaetholdeb Cymru yn yr ugeinfed ganrif, ond nid yw hwn chwaith heb ei gysylltiadau yn Ewrop. Erbyn hyn y mae miloedd o Gymry yn teithio i Ewrop bob blwyddyn ond (yn fwy na dim, oherwydd byrred eu harhosiad) y mae'n anhebyg fod hyn yn dylanwadu'n drwm arnynt. Dylid gofyn yn hytrach ynglyn â dylanwad Ewrop ar y Cymro ifanc sydd yn fyfyriwr llawn amser o hanes ac o lenyddiaeth Ewrop. Gwêl Roy Lewis Ffrainc heddiw fel cynhyrfwr cydwybod y byd oherwydd ei deallusrwydd eithriadol a chlaerineb a gonestrwydd ei meddwl, a gwêl hi'n herio Cymru (fel pob gwlad arall) i wynebu'r cwestiynnau mwyaf anghysurus am ei natur ei hun. Caiff G. L. Jones yn lenyddiaeth gyfoes yr Almaen safon newydd a maen prawf i brofi llenyddiaeth ei wlad ei hun. Ystyria ddylanwad y rhyfel ddiwethaf ar lenyddiaeth yr Almaen a llenyddiaeth Cymru gan gymharu dwy ddrama, yr un gan Hochhuth a'r llall gan Saunders Lewis. Gellir olrhain dylanwad Ewrop arnom yn wleidyddol, yn gelfyddydol ac yn llenyddol. Gellir gweled ei ddylanwad amlwg hefyd ar ein crefydd. Dyry Pennar Davies gipolwg ar y dylanwad hwnnw oddi ar y Dadeni Dysg, tra y mae John Daniel yn egluro inni beth sydd yn digwydd heddiw ym myd Pabyddiaeth Ewrop. Rhybuddia pob un o'r ysgrifenwyr hyn ni mai eu gwaith hwy yw agor y maes ac nid cynnig unrhywbeth gorffenedig. Pwysleisiant fod llawer mwy i'w astudio, ac y mae hyn yn sicr o fod yn wir. Nid oes astudiaeth yma o ddylanwad athronwyr Ewrop arnom, er enghraifft,