Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYMRU AC EWROP (Gan Lywydd yr Adran Athronyddol, 1962-63) Y mae llawer ffordd o drin y pwnc. Gellid dewis rhai o drigolion Cymru a ddylanwadodd yn drwm ar feddwl Ewrop, a'r byd o ran hynny. O'r rhain y pennaf, mi dybiaf, yw'r Arglwydd Herbert o Cherbury, Richard Price a Robert Owen, ac, o gynnwys byd y dychym- yg fel rhan o fyd y meddwl, Sieffre o Fynwy. Ar y llaw arall gellid olrhain peth ar ddylanwad rhai o feddylwyr mawr y Cyfandir ar Gymru, megis.Platon, Awstin, Calfin, Boehme, Grotius, Kant, Hegel. Yn wir ni ddoid i ben a sôn am ddylanwadau cyfandirol ar feddwl Cymru o Oes y Saint a thrwy'r Oesedd Canol a'r Dadeni Dysg, i lawr hyd at yr Ewropeaeth newydd a welir yn blaguro yng ngwaith Emrys ap Iwan, ac yn dwyn y fath gyfoeth o ffrwyth yn ein canrif ni ym mywyd a gwaith Mr. Saunders Lewis ac eraill. Ond troi'n gatalog fyddai ymdrin â'r pwnc yn y dull hwn mewn un erthygl. Ceisiaf, yn hytrach, ganolbwyntio ar beth a olygai Ewrop i Gymru, yn feddyliol, o oes i oes: y syniadau a goleddid yng Nghymru am Ewrop, yr agwedd tuag ati, natur y berthynas, a'r modd y gallodd ac y gall y berthynas hon gyfoethogi bywyd Cymru. A brasolwg ar hanfodion y pwnc yn unig, wrth gwrs, sy'n bosibl mewn erthygl fel hon. Ond ystyriwn yn gyntaf dwf y syniad o Ewrop yn Ewrop hithau.1 Prin oedd i'r syniad rym emosiynig yn yr hen fyd clasurol, ac eithrio yn ystod byr gyfnod rhyfeloedd y Groegiaid a'r Persiaid, pryd y tueddid i uniaethu'r naill wlad ag Ewrop a'r llall ag Asia gyda'i hys- blander di-chwaeth, ei hunbennaeth a'i gormes. Daliwyd fod Ewrop wedi ei bendithio'n helaethach, a bod yn amrywiaeth ei phatrwm gwleidyddol gyfle i ryddid ffynnu. Fe barhaodd y syniadau hyn, a rhoid pwys newydd arnynt gan ddyneiddwyr yr Eidal a oedd, hwythau, yn gynefin ag amrywiaeth patrwm dinesig ynghyd â chyffro a hoywder meddwl. 'Doedd Ewrop yn cyfri fawr i'r Rhufeinwr, er iddo dderbyn oddi wrth y Groegwr y syniad o dri chyfandir, Ewropa, Asia ac Affrica, a'u gwahanu gan fôr a dwy afon sef Nilus a Thanais. Ond yr oedd mwy o lawer yn gyffredin rhyngddo a'r dinasyddion o'i Ymerodraeth yng ngogledd Affrica ac yn Asia Leiaf nag â'r barbariaid tros Rhein a Donaw. Rhaid aros am ganrifoedd eto cyn y down at ysbaid fer ond tyngedfennol arall pryd yr oedd y syniad o Ewrop yn cyfri ac yn cyffwrdd calonnau pobl: y cyfnod pryd yr oedd Siarlymaen yn rex- 1 Yn yr adran hon pwysir yn drwm ar y ddau lyfr canlynol, y cyntaf yn bennaf ar y cyfnod clasurol a'r oesoedd canol, a'r ail ar y cyfnod o'r Dadeni ymlaen Denys Hay, Europe, the Emergence of an Idea (Edinburgh, 1957), a Federico Chabod, Stoyia dell' idea d' Europa (Bari, 1962).