Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CENEDLAETHOLDEB YN EWROP A CHYMRU YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG Dwy flynedd yn ôl, bu'r Efrydiau'n dadansoddi'r syniad o genedlig- rwydd, a chyfeiriodd mwy nag un ysgrifennwr at yr anhawster o ddiffinio'r gair. Yn hyn o beth, wynebent yr un trafferth â nifer o awduron y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Erbyn canol y ganrif honno, yr oedd y gair yn ddigon cyfarwydd yn ieithoedd Ewrop, wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol, er enghraifft, gan yr Académic Française, ac yn boblogaidd yn yr Almaeneg, Eidaleg, a Czech. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, defnyddid ef yn y wlad hon yn 1858. Ond er ei boblogrwydd yn Ewrop, dywaid y Ffrancwr J-B. Buchez yn ei Traité de politique et de science sociale (1866) nad oedd pobl yn glir ynglyn â'i darddiad, a bod hyn efallai ynghlwm wrth yr ansicrwydd ynglyn â'i ystyr. Ond beth bynnag am natur semantaidd cenedlaetholdeb' neu genedligrwydd nid oedd fawr o amheuaeth ynglŷn â'i allu nerthol, chwyldroadol, a'r modd yr enynnai deimladau cryfion yn Ewrop ar y pryd. O'r Chwyldro Ffrengig, yn ddiau, yr hanoedd y cenedlaetholdeb hwn. Mae'n wir y gellir olrhain ymwybod gwladgarol 'nôl i ganrifoedd cynharach. Mynegwyd teimladau felly yn ddigon hyglyw yn Lloegr yngnghfynod y Tuduriaid: ymhyfrydai Saeson ynnyddiau Elisabeth I am mai Saeson oeddent ac nid Ysbaenwyr, ac fel y gwyddys, y mae dramâu'r cyfnod, ac yn arbennig rai Shakespeare, yn llawn o linellau gwlatgarol. Ceir yr un teimladau yn Ffrainc ac yn Sbaen yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Ond cyn cyfnod y Chwyldro Ffrengig, teimladau teyrngarol ynghlwm wrth berson neu deulu a oedd yn symbol o'r bobl oedd teimladau felly, fel arfer, yn hytrach na rhai yn gysylltiedig â'r syniad haniaethol o genedl. Fel y sylwodd Acton yn ei draethawd enwog ar genedlaetholdeb, o dan yr hen drefn yn Ewrop ni chydnabuwyd hawliau cenhedloedd gan lywodraethau, ac nis honnid gan y bobl. Hunan-les y teuluoedd brenhinol ac nid lles y cenhedloedd a benderfynai ffiniau ac yn gyffredin, gweinyddid y gyfraith heb ymgynghori â dymuniadau'r bobl. Lle'r oedd sarnu ar ryddid, yr oedd anwybyddu ar annibyniaeth cenedlaethol, a gallai tywysoges gludo brenhiniaeth gyfan yn ei gwaddol, fel y dywed Fénélon Rhyw ddrychfeddwl daearyddol yn unig oedd y wlad- wriaeth a dim mwy. Ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd cenedlaetholdeb ynghlwm wrth weriniaeth a'r pwyslais yn cael ei osod ar gyfanrwydd y genedl. Mae'n wir fod yna egwyddorion yn bod cyn hynny ynglyn â chynrychiolaeth y bobl mewn senedd, a hawl hon i reoli gweithrediadau'r llyvodraeth, ond yn ystod y Chwyldro Ffrengig y daeth y gair gweriniaeth i olygu sofraniaeth