Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFRAINC-CYNHYRFWR CYDWYBOD Y BYD Fe ofynnwyd unwaith i mi feirniadu'r gystadleuaeth cyfieithu o'r Ffrangeg i'r Gymraeg mewn eisteddfod ryng-golegol. Y flwyddyn honno yr oedd pwy bynnag sy'n gyfrifol am bethau o'r fath wedi penderfynu taflu un o gerddi Verlaine yn ysglyfaeth i'r cyfieithwyr a'm teimlad i, ar ôl darllen yr ymdrechion, oedd bod yr ornest yn arwrol ond yn ddiffrwyth. Ni wn i a ddysgodd y myfyrwyr rywbeth o'm beirniadaeth, ond yn sicr mi ddysgais i gryn lawer wrth geisio eu mantoli nhw am y gwahaniaeth anianol sydd rhwng y ddwy iaith. Dyna, mewn gwirionedd, werth mawr cyfieithu y mae'n werth ei wneud am ei fod, yn y pen draw, yn amhosibl. Fel ymgais i gynhyrchu fersiwn Cymraeg o waith Verlaine, yr oedd y gystadleuaeth yn fethiant; ond yr oedd er hynny yn gyfrwng effeithiol i atgoffa dyn am y gwahan- iaeth hanfodol rhwng y Gymraeg a'r Ffrangeg. Y mae barddoniaeth wedi cael ei diffìnio fel yr hyn sy'n mynd ar goll wrth gael ei gyfieithu. Efallai nad yw hyn yn wir am bob math o farddoniaeth. Efallai, hefyd, fod gwahaniaeth rhwng iaith ac iaith yn hyn o beth, a bod ambell rai yn ddigon agos at ei gilydd i fedru cyfrannu yn yr un syniadaeth farddonol. Ond y mae traddodiad a meddwl Cymru, er y Dadeni Dysg beth bynnag, wedi datblygu i gyfeiriad mor wahanol i'r eiddo Ffrainc, fel mai prin y gellir disgwyl i eirfa'r bardd Ffrangeg gyfateb erbyn hyn i eirfa'r bardd o Gymro. Ar un lefel, y lefel ryddieithol, y mae ieithoedd Ewrop, ac i raddau llai ieithoedd y byd i gyd, yn cyfateb i'w gilydd yn bur agos. Ond y mae i bob iaith ac i bob cyfnod ei arbenigrwydd. I ddosbarth helaeth o Gymry heddiw, y mae'r gair anrhydedd yn golygu rhyw fraint ac urddas a roddir ar ddyn gan ei gymdeithas, fel, er enghraifft, math arbennig o radd prifysgol ond mewn llawer gwlad ac oes, y mae wedi golygu delfryd gwerthfawrocach nag einioes dyn, rhywbeth y dylid lladd, neu gael eich lladd, er mwyn ei hamddiffyn. Yr un sut, yn ein hamser ni y mae'r gair diweirdeb yn ei berthynas â bywyd rhywiol, wedi colli cyfran helaeth o'i ystyr, er bod yr ystyr honno mewn geir- iadur yn aros o hyd yn ddigyfnewid. Pan fo Verlaine yn sôn am mon coeur nid yw'n meddwl dweud yr un peth ag y mae bardd o Gymro wrth ddweud fy nghalon Y mae'r ymadrodd Cymraeg yn llusgo gydag ef atgofion am Geiriog a llu o efelychwyr rhamantiaeth Lloegr ond y mae Verlaine, i'r gwrthwyneb, yn enghraifft o'r ysbryd Ffrengig yn gwrthryfela yn erbyn safonau chwyddedig y rhamantiaeth honno. Pan ysgrifenna