Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DWY DDRAMA GYFOES CYMHARIAETH RHWNG BRAD GAN SAUNDERS LEWIS a Y FICER gan ROLF HOCHHUTH Yn ei ddarlith ar Thema yn y Nofel Gymraeg (1962) mae Islwyn Ffowc Elis yn sôn am ddiffyg ymateb y nofelwyr Cymraeg i'r ddau ryfel byd. Mor bell ag y mae'r ail ryfel byd yn y cwestiwn, nid yw'r mudandod hwn yn rhywbeth y gellid ei gael ond yng Nghymru, neu ymhlith y nofelwyr yn unig. Mae Walter Muschg yn dechrau ei lyfr ar Ddinistr Llenyddiaeth Almaeneg (1956) trwy gyfeirio at wybod- aeth, neu dwyll ymwybodol, neu anghofrwydd euog yr Almaenwyr ynglyn â'r digwyddiadau diweddar yn Ewrop. Mae e'n dadlau nad yn yr Almaen yn unig y gwelir yr ymdrech i anghofio'r gorffennol, ond hefyd trwy Ewrop gyfan. Wrth gwrs, nid oedd yn deg disgwyl i lenorion Ewrop fynegi eu meddyliau a'u teimladau am yr ail ryfel byd yn syth ar ôl iddo orffen. Yr oedd yn rhaid iddynt wrth fwlch, wrth bellter mewn amser oddi wrth y digwyddiadau arswydus hyn, cyn yr oedd yn bosibl iddynt eu hymgorffori mewn gweithiau llen- yddol. Ond erbyn hyn mae bron ugain mlynedd wedi mynd heibio er diwedd y rhyfel, ac nid wyf yn credu fod y beirniad sy'n gofyn am ymateb gan lenorion i ddigwyddiad pwysicaf a mwyaf tyngedfennol ein hoes yn gofyn gormod ganddynt. Yr oedd yn achlysur o bwys, felly, yn hanes llên fodern yr Almaen, pan gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn 1963 ddrama gan ysgrifennwr ifanc, anhysbys, Rolf Hochhuth (g. τ93τ), sy'n ymdrin ag agwedd y Pab, Pïws y I2fed, tuag at yr Iddewon. Fel y dywed Erwin Piscator yn ei Ragair i Y Ficer dyma un o'r ychydig ymdrechion sylweddol i feistroli ac i amgyffred y gorffen- nol. Ni fydd yn anniddorol cymharu'r ddrama hon â Brad, gan mai dyna'r unig ymgais ddramatig i ddehongli tynged yr Almaen dan lywodraeth Hitler sydd gennym ni yng Nghymru. Ar yr olwg gyntaf mae'r ddwy ddrama'n ymddangos yn eithaf annhebyg i'w gilydd. Yn y Ue cyntaf, mae T Ficer yn llawer hwy o ran maint na Brad. Ymdrinir yn y naill â phroblemau crefyddol, ond mae'r llall yn ymwneud â chynlluniau gwleidyddol; cynnwys y naill gyf- eiriadau at lu o gwestiynau, nad ydynt yn perthyn yn dynn iawn i'r mater dan sylw, ond mae'r llall yn canolbwyntio ar un digwyddiad arbennig. Er gwaetha'r gwahaniaethau hyn, mae'r un broblem sylfaenol yn cael ei thrafod yn y ddwy ddrama, sef cyfrifoldeb yr unigolyn yn ystod yr ail ryfel byd. Cyn troi at y broblem hon, efallai y dylwn eich atgoffa o blot-os ydy'r gair yn addas yn y cyswllt hwn- y ddwy ddrama. Fe ddangosir yn Brad ychydig o oriau ym mywydau swyddogion uchel y Fyddin Ellmynaidd ym Mharis, adeg y cynllun i ladd Hitler ym Merlin ar yr ugeinfed o fis Gorffennaf, 1944. Yn