Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYSYLLTIAD CREFYDDOL CYMRU AC EWROP ODDI AR ADEG Y DADENI DYSG [Rhoddwyd gan yr awdur yng Nghynhadledd yr Adran, 1963, fraslun o'r cysylltiadau a fu rhwng Ewrop a Chymru o ran crefydd o'r dechrau; ond am ei fod yn paratoi astudiaeth helaethach o ddatblygiad meddwl crefyddol Cymru hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol, barnwyd mai doeth fyddai cyhoeddi yma grynodeb o'i sylwadau ar y canrifoedd diweddar yn unig — o adeg y Dadeni a'r Diwygiad Protestannaidd ymlaen.] Briwsion yn unig o wledd fawr y Dadeni Dysg a gafodd Cymru. Fe ergydiwyd yr hen grefydd a'r hen ddiwylliant yn arw pan ddiddymwyd y mynachlogydd a dinistrio'r teyrngarwch i'r Pab a'r hen drefn. Ar yr un pryd, fe gollwyd nawdd llawer o'r pendefigion. Yn lle noddi beirdd Cymraeg megis yn yr hen amser, dyna deuluoedd fel yr Herbert- iaid yn dechrau noddi llenorion Saesneg. Ond er mai briwsion yn unig a gafwyd yr oedd rhain yn ddigon i gadw anadl einioes yn y diwylliant Cymraeg ac i ddangos bod yr iaith yn offeryn digon ystwyth ac urdd- asol i fyw yn y cyfnod newydd. Dyna ein dyled i lawer iawn o gyf- ieithwyr y cyfnod, hyrwyddwyr y Dadeni neu'r Diwygiad neu'r Gwrth- Ddiwygiad-er mai meddwl y cyfieithydd ys dywedodd W. J. Gruffydd, oedd y pla a ysigodd eu gwreiddioldeb — a dylid rhoi clod iddynt i gyd, ac efallai'n enwedig i alltudion y Gwrth-Ddiwygiad, am ymdrechu i gadw Cymru yn Ewrop. Daeth y Diwygiad Protestannaidd i effeithio ar Gymru fel mudiad a hyrwyddwyd gan y wladwriaeth; ond yr oedd yr Anglicaniaeth gynnar hon yng Nghymru mewn cynghrair â dyneiddiaeth y Dadeni, ac yr oedd yn ddigon Protestannaidd ei phwyslais. Mae dynion fel William Salesbury, Edmwnd Prys a Richard Davies — a bu'r olaf yn alltud ar y Cyfandir yn amser Mari Waedlyd-yn enghreifftiau da o'r mudiad Cymry da i gyd ond, fel pob Cymro ymron yn yr oes honno, wedi eu cau yng ngharchar y gwaseidd-dra Tuduraidd. Ond hyd yn oed yn eu carchar daeth breuddwyd rhyfedd iddynt: dyma'r gwfr a luniodd y ddamcaniaeth mai rhyw fath o Brotestaniaeth gyntefig oedd yr hen Gristionogaeth Frutanaidd. Mae'n bur sicr fod ar y propaganda hwn ddylanwad y ddadl gyffredinol mai Uygríadau oedd yr arferion Pabyddol a bod modd mynd yn ôl i gyfnod bendigedig pryd yr oedd yr Efengyl yn bur a'r Eglwys yn lân. Perffeithiwyd y ddamcaniaeth yn ddiweddarach gan Charles Edwards yn T Ffydd Ddiffuant. Trwy'r diwygiad gwladwriaethol fe agorwyd y drws yng Nghymru i'r diwygiad diwinyddol, a daeth Calfiniaeth, y ffurf fwyaf cyfundrefn-