Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CATHOLIGIAETH GYFOES Fy nhestun yw'r newid sydd yn digwydd yn Eglwys Rufain ar hyn o bryd. A chrynhoi, y mae Eglwys Rufain, fel corff, wedi sylweddoli yn ddiweddar beth yw eciwmeniaeth. Y mae hi'n ddigon amlwg fod y cyfryw newid yn digwydd. Gallwn ei drafod dan ddau ben, sef pwyslais a dull. Dan y pen cyntaf, y mae'r newid yn syfrdanol; a'r trobwynt, fel y gwyddys, oedd penodi Ioan XXIII i'r Sedd Sanctaidd. Trobwynt ydoedd rhwng ymdrechion ysbeidiol tuag at aduno a chynnydd astudiaeth ddeallus a pharhaol o'r broblem. Symbylodd y Pab loan y newid hwn trwy benderfynu cynnal Cyngor Eciwmenaidd: cyfarfod hierarchi Eglwys Rufain i ystyried cyflwr Eglwys Rufain, a hynny ym mhresenoldeb cynrych- iolwyr yr Eglwysi eraill. Ac o weld eu hesgobion yn trafod adnewyddu'r Eglwys dan y fath amgylchiadau, daeth Catholigion cyffredin yn ogystal i drafod yr un problemau yn yr un ysbryd. Nid yn unig y mae Catholigion heddiw'n astudio problemau eciw- meniaeth yn fwy difrifol, ond odid, nag a wnaethant erioed o'r blaen y maent yn ogystal yn graddol newid eu dulliau. Credai Catholigion ar un adeg mai esbonio'r gwirionedd oedd terfyn eu dyletswydd eciwmeniadd, a chredai rhai yn eu plith fod dymchwel cadarnleoedd y gelyn hefyd yn ofynnol p'run bynnag, y gwir oedd gwir digyfnewid Cyngor Trent, a pherthynai'r gweddill i ras Duw. Heddiw y mae'r sefyUfa'n wahanol dyma eiriau'r Pab Ioan1 "A bydd un gorlan ac un bugail" (Io. X, 16). Hwn yn wir oedd y gobaith melys a'n harweiniodd ac a'n hysgogodd i ddatgan yn gyhoedd- us y cynllun hwnnw, sef cynnal Cyngor Eciwmenaidd yr ymgynullai esgobion o bob rhan o'r byd iddo er mwyn trafod pynciau crefyddol o bwys. Ein prif reswm oedd sicrhau cynnydd y Ffydd Gatholig a gwir adnewyddiad ym moesau Cristionogion, yn ogystal â chyfateb- iaeth fwy addas rhwng disgybliaeth eglwysig ac anghenion ac amodau ein cyfnod. Bydd y Cyngor, bid sicr, yn enghraifft wych o wirionedd, unoliaeth a chariad credwn yn ffyddiog y bydd y rhai sydd wedi eu gwahanu oddiwrth y Sedd Apostolaidd hon, hyd yn oed o weled y cyfryw enghraifft, yn erbyn gwahoddiad cariadlon i geisio ac ennill yr unoliaeth honno yr ymofynnodd Iesu Grist amdani gan weddio yn daer ar ei Dad nefol.' Ychwanegaf ddyfyniad pellach o enau'r un Pab Gan hynny, cynhaliwn y Cyngor hwn trwy ras Duw ymbaratown ar ei gyfer trwy weithio yn ddiwyd er mwyn iachau a chryfhau yn ôl 1 Y Cylchlythyr Ad Petri Cathedram (Llundain, C.T.S., 1959). Anerchiad' i Weithredwyr Catholig yr Eidal, 1959 (Herder-Korrespondenz XIV, tud. 8 Ø.).