Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD ÉMILE Detholiad o weithiau Jean Jacques Rousseau wedi eu cyfieithu gan R. M. Jones. (Ail gyfrol Ysgrifau ar Addysg gan Gyfadran Addysg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth), Gwasg Prifysgol Cymru, 1963. 12/6c. Wedi llawer blwyddyn o gyfathrach ag athrawon ym mhob math o ysgolion, deuthum i'r casgliad mai un o'r astudiaethau mwyaf gwerthfawr y gallai'r darpar-athro ei ddilyn yng nghyfnod ei hyfforddiant fyddai cwrs a fyddai'n ei drwytho yn athroniaeth addysg. Wrth drafod eu gwaith â hwy, cefais fod cyfartaledd uchel o athrawon heb ofyn iddynt eu hunain gwestiynau ynglyn â beth yw pwrpas addysg a beth yw'r syniadaeth sylfaenol sy'n cyflyru neu a ddylai gyflyru eu hymagweddiad tuag at eu disgyblion. Y mae'n rhaid wrth archwiliad o'r seiliau athronyddol mewn unrhyw drafodaeth drylwyr ar hyd yn oed broblemau sy'n ymddangos yn rhai cwbl ymarferol. Yn anffodus, caiff dyn yr argraff, cyn belled ag y mae'r Colegau Hyfforddi yn y cwestiwn, nad oes ond ychydig iawn o'u haelodau staff yn gymwys i gyfarwyddo astudiaeth o'r fath. Am y rheswm hwn croesewir fersiwn Gymraeg o ddetholiadau allan o glasur Rousseau Émile rhyw ddwy ganrif wedi ymddangos o'r fersiwn Ffrangeg. Mae'r Gyfadran Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn ennill sylw cynyddol am y diddordeb a gymerth dan ei phennaeth newydd, yr Athro Jac L. Williams, mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n galonogol nad diddordeb theoretig yn unig mohono ond ei fod yn cael ei amlygu yn y wedd gwbl ymarferol o gynhyrchu llawlyfrau addas i'r darpar-athrawon sy'n dymuno cyfran o'u hyfforddiant proffesiynol drwy'r Gymraeg. Y llyfr hwn yw'r ail gyfrol o'r astudiaethau ar addysg yn Gymraeg a gyhoeddir gan y Gyfadran, ac y mae'n dda deall fod mwy yn cael eu darparu. Detholiadau o'r gwaith gwreiddiol a geir yn y gyfrol, ond fe'u detholwyd mor gyfewin fel bo'r gwaith yn cadw'i undod, a geill y neb na ddarllenodd y gwreidd- iol neu'r cyfieithiad Saesneg gael syniad cwbl foddhaol o thema gwaith dylan- wadol Rousseau. Y mae un peth siomedig, er hynny, sef y rhagymadrodd i'r trosiad. Er y dywed R. M. Jones mai llyfrau Rousseau yn hytrach na'i fuchedd, fel y gellid dychmygu, sydd o bwys i ni ceir argraff i'r gwrthwyneb o ddarllen rhagymadrodd y cyfieithydd. Gobeithiwn y bydd darllen y gwaith hwn yn symbylu'r darpar-athro i ofyn y cwestiynausylfaenol y soniaisamdanynt eisoes. Efallai y disgwyl Mr. Jones i'r darlithwyr a fo'n defnyddio'r llyfr hwn wneud hynny, ond buasai o gymorth sylweddol pe bai ef ei hunan wedi codi rhai o'r cwestiynau a gynigir gan safbwynt Rousseau. Yn sicr, fe ddylai fod yma ystyr- iaeth o'r hyn a olygai Rousseau wrth y term natur Y mae'n amlwg na olygai y dylid caniatáu i'r unigolyn dyfu heb ymyrraeth o fath yn y byd o'r tu allan. Y mae rhai tueddiadau y mae'n rhaid eu dileu pan fônt yn ymddangos yn wir ymddengys fod Rousseau yn synio am natur uwch a natur is Mae'n debyg na ellir disgwyl i'r syniadau fod yn rhai hawdd eu dimnio'n gwbl eglur gan mai prif amcan y gwaith yw protestio yn erbyn ansawdd ffug cym- deithas y cyfnod; ond y mae hwn yn bwynt o bwys a disgwylid i unrhyw un a fyddai'n Ilunio rhagymadrodd roi Ue i drafod y broblem. Gellid hefyd fod wedi sylwi gymaint o ddatblygiadau mewn syniadaeth addysgol sy'n tarddu o waith Rousseau. Er cymaint o naifrwydd sydd ynddo, ni ellir darllen y gwaith heb gael ein taro gan weledigaeth eithriadol y dyn. Ond er gwaethaf y diffygion a nodwyd ein prif ddyletswydd yw cydnabod ein dyled i R. M. Jones a'r Gyfadran yn Aberystwyth. Uangefni. D. Jones-Dayies.