Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWASG PRIFYSGOL CYMRU Llyfrau Diweddar ARWEINIAD BYRTR TESTAMENT NEWYDD Gan Isaac Thomas. Bwriedir y gyfrol hon, yn bennaf, ar gyfer myfyrwyr sydd yn dechrau ar astudiaeth feirniadol o'r Testament Newydd trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd o ddefnydd hefyd i athrawon a gweinidogion. tt. 259. Pris 18s. 6ch. THE HISTORY OF THE ABBEY OF ABERCONWAY Gan Rhys W. Hays. Hanes un o fynachlogydd amlycaf Gogledd Cymru yn ystod tri chan mlynedd a hanner o'i fodolaeth. tt. 220. Pris 30s. ADRODDIADAU COMISIWN Y BRIFYSGOL Yn cynnwys rhagair, adroddiad cyntaf, ail adroddiad a nodyn gan y Prifathro Thomas Parry. Y mae'r adroddiad cyntaf yn rhoi'r ddadl dros bedair Prifysgol i Gymru, a'r ail adroddiad yn rhoi'r achos dros gadw'r Brifysgol fel y mae — yn Brifysgol federal. tt. 158. Pris 5s. YN BAROD YN FUAN GWEITHIAU WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN. Cyfrol I. Golygwyd gan Gomer M. Roberts. Hon yw'r gyntaf o gyfres o gyfrolau yn cynnwys y rhan fwyaf o weithiau Pantycelyn y mae y Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn ystyried eu cyhoeddi. Cynnwys y gyfrol gyntaf Golwg ar Deyrnas Crist a Bywyd a Marwolaeth Theomemỳhus. ANTERLIWTIAU TWM O'R NANT. Pedair Colofn Gwladwriaeth a Cybydd-dod ac Oferedd. Golygwyd gan G. M. Ashton. Paratowyd y gyfrol at wasanaeth myfyrwyr coleg a dosbarthiadau uchaf yr ysgolion gramadeg. YSGRIFAU AR ADDYSG. Cyf. III. Cyflwyno'r ail iaith. Gan R. M. Jones. MAES LLAFUR NEWYDD ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOLION CYMRU. Y fersiwn Gymraeg o'r argraffiad Saesneg newydd sydd eisoes wedi ym- ddangos. COFRESTRFA'R BRIFYSGOL, PARC CATHAYS, CAERDYDD