Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GOLYGYDDOL FE ADRODDIR y gofynnwyd i Awstin unwaith beth oedd amser ac iddo yntau ateb, Si non rogas intelligo, Ond i chwi beidio â gofyn i mi rwy'n ei ddeall.' Gellir dywedyd yr un peth am lawer syniad arall ac yn eu plith y syniad o berson. Fe wyddom i gyd beth yw person- hyd nes y ceisiwn ei ddiffinio neu ei ddisgrifio Gedwch inni sylwi ar y modd y defnyddir y term yn gyffredin. Ni fyddwn byth yn sôn am anifail fel person. Clywsom sôn am gi fel 'dipyn o garitor dyweder, ond nid erioed fel person. Paham hyn ? Ai cymryd yn ganiataol a wnawn nad oes dim is na dyn i'w alw'n berson ? Y mae person yn fod cyfrifol ac ni feddyliwn am anifail fel bod cyfrifol. Defnyddiwn y gymhariaeth hon, fel y dywed W. L. Gealy yn y rhifyn presennol, i bwysleisio hawliau dyn fel bod moesol; dywedwn nid anifail yw ef ond person Nid yw'n iawn delio â phersonau fel pe baent anifeiliaid. Yn gyffredin, term moesol yw 'person'. Y mae'n derm cyfraith hefyd a therm llysoedd barn, personau'n unig sy'n ymatebol i ddeddf. Y mae'n debyg y ceir y gair person fel y cyfryw yn gyntaf mewn cysylltiad â dramâu, y personae yw'r unigolion a ddaw ar y llwyfan. Yna y mae sôn am y Tri Pherson yn y ddiwinyddiaeth Gristionogol. Y mae'n amlwg fod y syniad o bwys ym mywyd dyn ac yn haeddu ystyriaeth. Yn y rhifyn presennol o Efrydiau Athronyddol dadansoddir y syniad gan bedwar ysgrifennwr. Ni cheisiant ddihysbyddu'r mater yn llwyr ond yn hytrach ystyried rhai agweddau ar y broblem. Gofyn J. L. Evans Beth a olygwn pan ddywedwn fod dyn yn un person ? Ateb a gafodd lawer o sylw yn ddiweddar yw eiddo Gilbert Ryle yn ei Concept of Mind, a rhydd J. L. Evans ystyriaeth fanwl i'r ateb hwn gan ei gael yn ddiffygiol. Cawn gan Dr. Penrhyn Jones ddisgrifiad o ddysgeidiaeth y ffisiolegydd a'r seiciatrydd heddiw o'r corfforol a'r meddyliol yn yr undod personol. Y mae newidiadau yn yr ymennydd yn dylanwadu ar fywyd y meddwl. Diddorol iawn yw'r hanes ganddo am y gymhariaeth rhwng mathau o bersonoliaeth a mathau o ffurfiau corfforol. Ond rhybuddir ni ei bod hi'n rhy gynnar i dynnu casgliadau cyffredinol ar sail y dargynfyddiadau yn y meysydd hyn. Y mae'r person dynol yn rhannol gorfforol. Yn wyneb hyn, a ddylid son am Dduw fel person ? Dyma gwestiwn .W. L. Gealy. A yw'r syniad am berson yn golygu un o fewn terfynau neilltuol ? Os felly, sut y gallwn feddwl am y Trosgynnol a'r Diamodol fel person?