Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SYNIAD O BERSON (GAN LYWYDD YR ADRAN ATHRONYDDOL, 1964.) Y mae'r ymgais fwyaf diddorol a mwyaf uchelgeisiol a wnaed yn ddiweddar i ddod o hyd i ddamcaniaeth newydd i esbonio'r syniad o berson i'w chael yn llyfr yr Athro Ryle, The Concept of Mind. Cafodd ei olygiadau dderbyniad cymysg, yn amrywio o edmygedd anfeirn- iadol i wrthodiad anystyriol. Diogel yw dweud i'w lyfr ennyn mwy o feddwl dros y pwnc nag unrhyw lyfr arall yn ddiweddar. Daeth yr amser yn awr i geisio pwyso a mesur ei gyfraniad at ein dealltwriaeth o'r syniad o berson. Yr oedd prif amcan llyfr Ryle yn ddeublyg, yn gyntaf i ddinoethi'r agweddau afresymol yn yr hyn a eilw ef y farn swyddogol, yn tarddu yn honedig o Descartes, ac yn ail i gynnig damcaniaeth yn ei lle, a fyddai'n rhydd o'r camgymeriadau rhesymegol sydd yn y golygiad y mae'n ymosod arni. Fy amcan i yn y papur hwn yw ystyried a yw'r hyn y mae ef yn ei gynnig yn rhydd o fai. Caniataer imi achub y blaen ar fy nghasgliadau i'r graddau hyn, sef dweud bod y syniad am berson a amlinellir gan Ryle mor annerbyniol â hwnnw y bwriedwyd iddo ei ddisodli. Dymunaf yn gyntaf ystyried syniad Ryle am fethod athronyddol. Fel Descartes, cyn cyflwyno ei theori o'r meddwl dyry Ryle amlinelliad o'r method yr ydys yn dod o hyd i gasgliadau sylweddol trwyddo, ac fel Descartes ni wna fawr ddefnydd o'r method y bu'n sôn amdano. Yn ôl Ryle, hanfod y method athronyddol yw dadleuon reductio ad absurdum, method sydd mor fanwl gywir yn y cymhwysiad ohono â'r method diddwythol a rydd Descartes o'n blaen. Anodd peidio â sylwi ar symlder a chynildeb y method a gynigir. Ymddengys fod yr amryfal broblemau ynglyn ag athroniaeth y meddwl, yn ogystal â changhennau eraill athroniaeth, oll yn ddarostyngedig i un math sylfaenol o ddadl. Yr un mor drawiadol yw'r honiad y gellir cymhwyso method mor fanwl gwyir â method reductio ad absurdum at ddatrys problemau o natur anrhesymegol, problemau sy'n perthyn, yn ôl idiom heddiw, i faes rhesymeg ` anffurfiol'. GeUir sylwi ar nodwedd arall, hefyd, o fethod Ryle, sef ei bod yn anodd gweld sut y gellir defnyddio dadl reductio ad absurdum i ddod o hyd i theori ymarferol method sy'n dinistrio yw, mae'n sicr, yn hytrach nag adeiladu. Yn wir, o ddarllen The Concept of Mind nid rhyfedd darganfod bod y casgliadau cadarnhaolydeuir iddynt yn codi o ddulliau tra gwahanol. Gellir honni, yn wir, nad oes ond un cymhwysiad eglur o'r method a gynigir, sef yn y bennod ar yr Ewyllys, a hawdd gweld mai dymchwel a wneir, gan mwyaf, yn y bennod hon yn. hytrach nag adeiladu.