Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGWEDDAU MEDDYGOL AR BERSONOLIAETH Er ei bod yn haws amgyffred personoliaeth na'i diffinio, eto y mae'n bosibl ei harchwilio yn ôl rheolau gwyddoniaeth, gan gyd- nabod ar yr un pryd mai digon petrus, er mor doreithiog, yw'r astud- iaethau hynny. Un olwg yn unig a gaiff y seicolegydd meddygol ar gymhlethdod dyn yn ei amgylchedd a chyda'i ymatebion dyrys i gymdeithas ei debyg o'i gwmpas. Mae gan yr athronydd a'r cym- deithasegwr yr un hawl wrth gwrs i geisio adnabod personoliaeth o'u safbwynt hwy, ac mae'r dramaydd a'r nofelydd a'r cofiannydd yn ystyried eu hadnabyddiaeth o bersonoliaeth fel hanfod eu crefft. Er fod y bardd wrth rybuddio awduron dyddiaduron wedi canu Nes na'r hanesydd at y gwir di-goU Ydyw'r dramodydd, sydd yn gelwydd oll, mae yntau hefyd yn ddigon atebol i daflu rhyw oleuni ar ryfeddod personoliaeth dyn. Gwir yw fod y celfyddydau wedi, ac yn, cyflenwi gwybodaethau meddygol a seicolegol am natur dyn. Ni fu'r cyswllt rhyngddynt yn agosach nag yn y cyfnod Victoraidd ym Mhrydain pan oedd bri ar y nofel Saesneg, a llanw cyfoesol mewn meddygaeth wyddonol. Gwr cydnaws â'i oes oedd Charles Bray, Methodist Efengylaidd, cyfaill Robert Owen o'r Drenewydd, ynghyd â llawer Uenor a chre- fyddwr amlwg yng nghanolbarth Lloegr yn ei ddydd. Ei bwysigrwydd hanesyddol yn y cyswllt hwn yw iddo ddwyn ynghyd ysgol ddylan- wadol o nofelwyr â chnewyllyn o ffisiolegwyr treiddgar a lefeiniol — y ddau gτwvp a'u disgynyddion yn y cyfamser wedi ychwanegu, o gyfeir- iadau gwahanol, at ein hamgyffred o bersonoliaeth. Ar aelwyd Bray yn Coventry y cafodd yr athronydd Herbert Spencer gartref ysbrydol, ac yno y daeth i gysylltiad â George Eliot, y nofelydd, a'i chytalydd Henry Lewes. Yno hefyd y daeth George Eliot, cyfeilles mynwesol Caroline Bray, i adnabod John Chapman a thrwyddo Dickens, Huxley, Harriet Martineau a John Stuart Mill. Cafodd Spencer fudd o lyfr Henry Lewes, The Physiology of Common Life y llyfr a enwir gan y cymeriad Roskolnicoff yn nofel Dostoievsky Crime and Punishment, a'r llyfr, yn ôl Charles Sherrington, a drodd Pavlov i ymhél â ffisioleg. George Lewes, a'r meddyg Henry Maudesley ( τ 83 ς-τ 9 τ 8), seiciatrydd a sgrifennodd yn helaeth ar gysylltiad corff a meddwl, oedd gyda'r cyntaf ym Mhrydain i gydio ffisioleg wrth weithgareddau'r meddwl. Lewes hefyd, ynghyd â George Eliot, a enynnodd ddiddordeb Spencer yn y grach-wyddor ffrenoleg, gyda'i phwyslais ar leoliad meddyliau a dyheadau yn y gwahanol rannau o'r ymennydd. Mae olion y syniadau hyn i'w canfod yng ngweithiau Spencer dylanwadodd y rheini yn eu tro ar Hughlings Jackson, un o gewri niwroleg y ganrif ddiwethaf, ac