Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y SYNIAD O DDUW FEL PERSON Mae'n weddol amlwg mai'r broblem fwyaf sy'n wynebu athronydd crefydd wrth ymdrin â'r pwnc PersonoHaeth yw'r cwestiwn, Beth yw ystyr y gosodiad fod Duw yn berson ? A dyma fydd testun ein hastudiaeth bresennol. Fe ellid bod wedi ymdrin â'r cwestiwn Beth yw'r syniad crefyddol o'r bersonoliaeth ddynol ? ond eilradd yw pwysigrwydd y cwestiwn hwn wrth ei gymharu â'r broblem ganolog a sylfaenol yn athroniaeth crefydd ynglyn â phersonoliaeth Duw. Wrth ddelio â'r pwnc hwn o ystyr y gosodiad fod Duw yn berson, fe ddibynnir i fesur helaeth ar athrawiaeth Acwinas ar gyfatebiaeth. Hanfod yr athrawiaeth hon yw fod rhan o iaith gyffredm yn cael ei defnyddio mewn ystyr gyfatebol mewn gosodiadau am Dduw. Un o nodweddion cyfatebiaeth lwyddiannus yw ei bod yn hawdd dirnad rhwng yr agweddau hynny o'r disgrifiad cyfatebol sydd yn ad- lewyrchu tebygrwydd a'r agweddau hynny nad ydynt o unrhyw rym netk addasrwydd o gwbl yn y gyfatebiaeth. Mae'r llwyddiant hwn, wrth gwrs, yn dibynnu i fesur helaeth iawn ar eglurdeb y cyd-destun cyfatebol. Felly er mwyn datrys ystyr y gosodiad cyfatebol fod Duw yn berson rhaid i ni yn gyntaf fod yn gymharol glir ynghylch ystyr normal y syniad o berson, ac yna o gyd-destun diwinyddol geisio canfod pa agweddau o'r ystyr gyffredin a fenthycir ac a wrthodir. Felly patrwn y papur fydd yn gyntaf, archwilio ystyr arferol y syniad o berson yn ail, ceisio dangos y rheidrwydd o ddefnyddio cyfateb- iaeth yn iaith crefydd oherwydd arbenigrwydd a throsgynnedd y Bod a ddisgrifir ac yn olaf, ceisio dangos gwir arwyddocâd y syniad o Dduw fel person o gyd-destun diwinyddol, gan mai o'u cyd-destun y deuir o hyd i ddefnydd ac ystyron arbennig syniadau. I Pan wneir y gosodiad fod rhyw fod yn berson yr ydys yn ei ddos- barthu a chan amlaf fe gyferbynnir y dosbarth hwn â dosbarth yr anifeiliaid. Yn aml iawn mewn dadl foesol fe glywn y dyn cyffredin, wrth amddiffyn hawliau a pharchusrwydd dynol, yn gwneud yr apêl Nid anifail yw e' ond person". Pa fath o wahaniaeth a nodir yma ? A beth yw ei sail ? Mae'n ddiddorol fod y dyn cyffredin yn aml yn defnyddio'r ddadl hon fel dadl derfynol a wna'n ddianghenraid un- rhyw ddadl bellach. Fe ystyrir y gosodiad ganddo fel pe bai yn hunan- eglur, ac ni theimlir mo'r angen i roi unrhyw gyfiawnhad pellach drosto. Medrwn gasglu o hyd fod elfen o werthfawredd moesol yn gynhenid neu yn fewnol yn y syniad cyffredin o berson, a cheir yma awgrym cryf mai i sgwrsio moesol y perthyn y gwahaniaeth rhwng 1 Summa Theologica, Ia. xiii, 2-7.