Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PERSONOLIAETH A RHESWM MEWN MOESEG Ai astudiaeth niwtral yw moeseg ? Dywed rhai y dylai moeseg ddweud wrthym beth sydd yn dda, a'r hyn sydd yn ddrwg. Pe bai hyn yn wir, iawn fyddai disgwyl i athroniaeth ddweud wrthym beth yw personoliaeth foesol. Nid wyf yn credu y gall moeseg wneud hynny, ond ni olyga hyn fod yn rhaid credu nad oes arwyddocâd moesol i foeseg. Yn wir, y mae i foeseg arwyddocâd moesol, ond nid trwy iddi. fod yn rhyw fath o ddysgeidiaeth foesol neu bropaganda. Sut y gall hyn fod ? Gall damcaniaethau moesegol ddylanwadu ar foesoldeb. Y mae gan rai syniadau peryglus ddylanwad aruthrol ar feddwl y dyn cyffredin megis y syniad am y daioni cyffredinol, safonau absoliwt, hapusrwydd, cynnydd moesol, yr hyn a fynno pob dyn, ac yn y blaen. Ond yn aml, y mae'r fath syniadau wedi eu gwreiddio mewn dryswch a chamddeall. Ond pe dangosai dadansoddiad athronyddol y dryswch a'r camddeall gwreiddiol, yna, gellir newid y syniadau moesol a gododd o'r dryswch a'r camddeall. 'Rwyf fi'n credu fod y syniad o bersonoliaeth foesol yn syniad peryglus hefyd. Yn y papur hwn, yr wyf am bwysleisio camsyniadau athronyddol yn hytrach na chamsyniadau moesol. Y mae'r rhai mwyaf difrifol yn gysylltiedig â'r hyn a dyb rhai yw swydd rheswm mewn moeseg. Blinir athronwyr cyfoes gan anghytundeb moesol. Fel Bentham a Mill dyheant am arweiniad allanol i'w hachub rhag goddrychiaeth anobeithiol y teimladau mewnol. Gwnânt yr arweiniad allanol yn gyfystyr â rheswm. Dyma'r fan y daw'r cwestiwn am resymoliaeth yn berthnasol i'r syniad o bersonoliaeth foesol. Os gellir penderfynu ar gwestiynau moesol wrth ddefnyddio rheswm," gellir disgwyl penderfyniadau ar natur y bersonoliaeth foesol yn yr un modd. Ond i ddod at wraidd y syniadau cyfoes am reswm mewn moeseg, rhaid mynd ymhellach yn ôl na'r Llesolwyr. Aristoteles yw ysbrydol- iaeth moeseg gyfoes. Nid gwaith anodd yw sylweddoli paham y mae athronwyr cyfoes am ddangos fod cysylltiad rhwng rheswm a pher- sonoliaeth. Nid oes raid ond agor llyfr Aristoteles ar foeseg, "Moeseg Nichomachaidd," i ddarganfod eu hawdurdod dros wneud hynny. Astudiaeth yw athroniaeth o'r gwahaniaeth rhwng ymddangosiad a realiti, rhwng y gwir a'r gau. Ym moeseg Aristoteles, gwelir y gwahan- iaethau uchod fel y gwahaniaeth rhwng y rhesymol a'r afresymol. Penderfynir natur y bywyd da a natur y dyn da gan athroniaeth wrth ddadansoddi natur ymddygiad rhesymol. Yn y pen draw, 1 Yr wyf yn ddyledus i Mr. Huw Morris-Jones a Mr. Gwyn Thomas am fwrw golwg dros iaith y papur hwn.