Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BETH YW HANES ? Amcan y papur hwn yw ceisio ateb i'r cwestiwn, Beth a olygwn pan ddywedwn am unrhyw ddigwyddiad ei fod yn ddigwyddiad hanes- yddol ? Yr un cwestiwn ar ochr gwybodaeth ydyw gofyn ynghylch unrhyw osodiad, A yw'r gosodiad hwn yn osodiad hanesyddol ?, hynny yw, A yw'n osodiad ynghylch digwyddiadau hanesyddol ? (Hyn o'i wrthgyferbynnu ag ystyr arall posibl i'r cwestiwn, sef, A yw'r gosodiad pan wneir'ef yn ddigwyddiad hanesyddol ?) Gwell efallai, er mwyn bod yn eglur, yw galw sylw ymlaen llaw yn y fan hon at wahaniaeth a ddaw i'n cyfarfod yn nes ymlaen yn y drafodaeth, sef y gwahaniaeth rhwng astudio nodweddion yr hyn y cytunir i'w alw yn hanesyddol, ac astudio hanes fel proses cyfan-os yn wir y gellir meddwl amdano felly. Pan ddywedwn am unrhyw ddigwyddiad ei fod yn ddigwyddiad hanesyddol golygwn o leiaf — a defnyddio'r idiom Saesneg-iddo gymryd lle'. Golygwn hyn yn llythrennol, gan nad hwn ydyw'r unig ddigwyddiad a gymerodd ei Ìe. Y mae ei Ie yn arbennig, a pherthyn i gyfanglwm o ddigwyddiadau cylchynol, pob un yn cymryd ei Ie ei hun. Y mae'n gwestiwn amheus, er na aUwn oedi gyda'r broblem yn awr, a ellir dweud am unrhyw ddigwyddiad fod iddo Ie yn annibyn- nol ar ei gyd-ddigwyddiadau. Fe ddichon y tardd lleoliad digwyddiad o'i gymdogaeth ddigwyddol. Daw'r syniad o gyd-ddigwydd â ni at nodwedd arall a berthyn i ddigwyddiad, pa un a ystyriwn ef yn ddigwyddiad hanesyddol ai peidio. Yn gymaint a bod digwyddiad yn cymryd Ue awgrymir nad oedd yno o'r blaen, ac na fydd yno eto. Yn wir, y mae ei bryd a'i Ie gydag ef. Os digwydd eto digwyddiad arall fydd, os caniateir imi fod mor Wyddelig â hyn ? Y mae i bob digwyddiad ei stans ei hun mewn gofod-amser, a gellir gofyn am bryd a lle pob un. Y mae hyn yn wir hyd yn oed am yr hyn a ddigwydd yn y meddwl. Ni all digwyddiad meddyliol, pa mor syniadol bynnag ei gynnwys, osgoi ei bryd a'i le. Yn rhinwedd hyn gall yntau hefyd fod yn hanesyddol. Y mae'r adeg yr aeth Archimedes i'w dwbyn, neu'r adeg pan eisteddodd Newton o dan ei goeden afalau, yn achlysuron pwysig yn natblygiad syniadau a pha mor chwedlonol bynnag y dichon i rai o'r achlysuron honedig hyn fod, y mae'n rhaid bod rhyw achlysur yn gysylltiedig â digwyddiad y syniadau dan sylw. Y mae ein sefyllfa mewn gofod-amser yn lleol1 digwyddiaeth ein syniadau. Y mae'n sicr, beth bynnag, na ddaw unrhyw syniad i fod mewn gwegi. A chan na ellir meddwl am ddim a fu, yn feddyliol na materol, nas digwyddodd, y mae digwyddiaeth yn sine qua non yr hanesyddol. Ni ellir cael hanes na ddigwyddodd. Y mae'r hanesyddol, ar y gwastad