Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gryma'r ystyriaethau hyn mai yn rhinwedd rhyw arwyddocâd a feddant mewn perthynas â bywyd parhaol rhyw gymdeithas ddynol y mae'r digwyddiadau hynny y cytunir i'w galw yn ddigwyddiadau hanesyddol yn haeddu'r enw. Awgryma hyn ymhellach mai cyflwyniad o ddethol- iad o ddigwyddiadau o continuum digwyddiadau gofod-amser ydyw hanes fel y'i cynhyrchir ef gan yr hanesydd. Fe'n hwynebir yn awr gan ddilema sy'n gynefin i'r sawl a fyfyrio ar natur hanes, sef bod y gair hanes yn air mwys. Golyga un ai proses gwrthrychol o ddigwyddiadau neu'r wyddor neu ddisgyblaeth ddi- wylliannol a astudia'r cyfryw broses. Sut, felly, yr ydym i wahan- iaethu rhwng y ddau ddefnydd hyn o'r gair hanes', ac a allwn ddar- ganfod unrhyw gyferbyniad rhyngddynt a'i gilydd ? Ar yr wyneb y mae cyferbyniad tybiedig rhwng hanes fel yr ysgrifennir ef, a hanes fel y digwydd. Rhagdybir hyn yn y syniad sylfaenol am wyddor hanes gan mai bwriad addefedig yr hanesyddyd yw ail gyflwyno'r gorffennol yn y fath fodd fel ag i alluogi'r darllenydd i ddirnad proses hanes. Nid yw, fel yr artist creadigol, yn dyfeisio'i ffeithiau'. Y mae ffeithdod yn elfen annidol mewn hanes,,ac y mae'r hanesydd o dan ymrwymiad yn amodau ei grefft ei hun i gyfiawnhau ffeithiau honedig. Os geilw ar ddychymig, fel y gwna, fe wna hynny er mwyn atgynhyrchu trwy gymorth dychymig, ac ar sail ei ddefnyddiau, y sefyllfa wreiddiol; ond nid byth er mwyn creu o newydd. Ymhellach y mae'r hanesydd, fel yr hynafiaethydd, yn y sefyllfa ryfedd o fod yn astudio gwrthrych nad oes iddo fodolaeth bresennol ag eithrio ar ffurf cofnodion neu fathau eraill o dystiolaeth. Fe ddichon fod yr ystyriaethau hyn, ymhlith eraill, ym meddwl Benedetto Croce pan wnaeth ei sylw cofiadwy mai hanes cyfoes yw pob hanes gan awgrymu mai cyfoes yw pob tystiolaeth hanesyddol, fel mai cyfoes ydyw cyflwyniad gorffennol adferedig ym meddwl yr hanesydd. Sieryd yr hanesydd bob amser am yr hyn a fu, ac ni ddichon ei osodiadau yn briodol gynnwys dim ond casgliadau dilys ar sail ei ffynonellau. Edrych drach ei gefn a wna, ac y mae'n ofynnol iddo fedru rhoddi cyfrif o ddilys- rwydd yr hyn a wêl. Y mae'r syniad am ddilysrwydd o'r pwysigrwydd mwyaf mewn unrhyw ymdrech i ddarganfod cyferbyniad cyd-rhwng hanes fel y sgrifennir ef a hanes fel y digwyddodd. Daw'r pwnc hwn i'n cyfarfod eto. Hoffwn droi yn awr at agwedd o'r hanesyddol a alwaf i bwrpas y drafodaeth hon yn hanesoldeb'. Nid wyf yn hapus iawn ynglyn â'r gair hwn, ond y mae, efallai, yn awgrymu hanfod y syniad sydd gennyf dan sylw. Wrth hanesoldeb golygaf yn awr y posibilrwydd a fedd digwyddiad neu glwstwr o ddigwyddiadau honedig i'w diriaethu eu hunain i mewn i gymdogaeth o ddigwyddiadau hanesyddol hysbys a derbyniedig yn ôl safonau dilysrwydd hanesyddol, a hynny yn esmwyth