Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gan hynny, chwedl Ranke, y mae'n rhaid cael gwybod wie es eigentlich gewesen. Craidd ein dadl ni yw mai cynnyrch dehongliad beirniadol o adroddiadau am ffeithiau honedig ydyw hanes, ac oherwydd hynny y mae'n rhaid wrth ymennydd dehongliadol yr hanesydd yn ogystal â'r dystiolaeth cyn y gall hanes fel y cyfryw ddod i fod. Y mae'r olion yn ffaith, ond a yw'r ffaith yn ffaith ? Gwaith yr hanesydd ydyw dweud a deuparth ei waith ydyw gwybod sut ac ar ba seiliau i holi ei dystion. Fe wêl y darllenydd fy mod, wrth ddwyn y drafodaeth i ben yn y fan hon, yn ymwrthod â phroblem gywreiniaf a mwyaf diddorol damcaniaeth hanes, sef sut y gwyr yr hanesydd ei fod yn cyflwyno, ac nid yn creu, hanes drwy y method hwn ? Ond ni all Efrydiau Athronyddol gynnwys popeth. Lockerbie, Dumfries. R. Meirion ROBERTS.