Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hosanna i Fab Dafydd, Y Mor o Wydr, a'r Ffarwel Weledig. Yr unig gasgliad o bwys wedi hynny yw'r Gloria in Excelsis( 1771-72), a gyhoedd- wyd pan oedd yr emynydd tua ei 55 oed, ac am ei ddwy gerdd hir iawn, ei bryddestau os mynnir, ychydigtan ei ddeugain oed yr oedd adeg cyhoeddi Golwg ar Deyrnas Crist ac yn 48 oed yn cyhoeddi Theo- memphus. Ac eithrio ambell un o'r marwnadau i'w ffrindiau — Daniel Rowland, er enghraifft-dyma ni'n gweld fod bron y cwbl o'r emynau a'i farddoniaeth sydd o bwys wedi eu llunio ganddo yn 55 oed, a'r rhan fwyaf o lawer rhwng y 27 a'r 50. Trown at y prif lyfrau rhyddiaith ac fe gawn stori dra gwahanol. O'r 50 i'r 60 oed yr oedd yn sgrifennu'r rhan fwyaf ohonynt, ac er nad oes ynddynt yr afiaith sy'n rhoi'r fath eneiniad ar gymaint o'r emynau, y maent yn aml yn ffrwyth meddwl aeddfetach ac mwy amlweddog. Am dros 16 o flynyddoedd, sef o'r 45 oed i'r 62, er mawr benbleth i lawer o'i gyd-Fethodistiaid, bu'n dal ati i gyhoeddi darnau o'r Pantheologia, sy'n wyddoniadur o hanes holl grefyddau'r byd, ynghyd â stôr o wybodaeth am bob math o arferion a dulliau byw trigolion pedwar cyfandir. Yna, yn 50 oed, fe'i cawn yn cyhoeddi Crocodil Afon yr Aipht, flwyddyn yn ddiweddarach Y Tri Wyr 0 Sodom, ac yn drigain oed y Ductor Nuptiarum neu Gyfarwyddwr Priodas, a Drws y Society Profiad. I gael syniad cynhwysfawr o'i feddwl, rhaid astudio'r cwbl o'r rhain, a hefyd rai o'i lythyrau megis y llythyr pwysig i Thomas Charles ychydig ddyddiau cyn marw Willíams, ei ragym- adroddion i'w gasgliadau o'i emynau, ac i'r Pantheologia ac i weithiau eraill ganddo, a hefyd rai o'r blyrbiau doniol ar gyfer rhai o'i lyfrau, yn enwedig y Pantheologia. Rhaglen helaeth, ond y tro hwn rhaid bodloni'n unig ar drafod syniadau ac agwedd meddwl Pantycelyn tuag at ryw ddau neu dri o faterion arbennig. Dechreuwn gyda'i agwedd at ddysg. Yn Theomemphus fe gawn Williams yn wfftio Orthocephalus am daeru Mae gwybodaeth ydoedd mam crefydd bur trwy'r byd Ac ar wybodaeth ydoedd ei hadeiladu hi i gyd." Ond dylem gofio hefyd iddo rybuddio yn ei ragymadrodd i'r Pantheol- ologia nad yw anwybodaeth yn fam crefydd" ychwaith. Eto, droeon a thro, fe haerir yn angerddol yn yr emynau mai gras ac nid dysg yw'r peth cwbl hanfodol. Afraid dyfynnu enghreifftiau gan eu hamled. Mewn rhan ddiweddar o Theomemphus fe gawn Williams yn mynd i fewn i'r mater hwn yn fanylach lle y mae Academicus yn cael ei drin yn o arw Yn y cyfamser yma y cwrddodd ef ryw bryd