Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CHWYLDRO MEWN CYFATHREBU (Gan LYWYDD YR ADRAN, 1965-6) Y MAE'N debyg nad yw'n ormodiaeth dweud ein bod yn byw heddiw ynghanol chwyldro mor ddylanwadol â'r Chwyldro Diwydiannol a newidiodd. fywyd y wlad yma ganrif a hanner yn ôl. Chwyldro cyfath- rebiaeth yw ein chwyldro ni ac fel y Chwyldro Diwydiannol achos- wyd ef gan ddyfeisiadau'r gwyddonydd. Gan na chafodd y chwyldro diweddaraf lawer o sylw eto yng Nghymru, er ein bod i gyd yn ym- wybodol ohono, fe fydd yr astudiaethau a geir yn y rhifyn hwn o Efrydiau Athronyddol, a dweud y lleiaf, yn amserol. Fy amcan i yn yr ysgrif gyntaf yw agor y maes ar gyfer yr ysgrifau sydd i ddilyn. Yn fwyaf neilltuol, 'rwyf am geisio gwneuthur dau beth yn y lle cyntaf, gofyn beth yw dylanwad y chwyldro ar ein dulliau o feddwl, cwestiwn sy'n ymwneud ag epistemeg a seicoleg. A gofyn, yn yr ail le, beth yw effaith y chwyldro ar ein bywyd cymdeithasol a moesol. Nid oes atebion terfynol gennyf naill ai i'r cwestiwn cyntaf na'r ail; fel yr esboniais, agor y maes yn unig yw fy ngorchwyl. Beth yw cyfathrebu ? Ceir gwahanol ddiffiniadau ohono yn yr ysgrifau a ganlyn, ond mentraf ei ddifinio dros dro fel cyfathrach o unrhyw fath rhwng dyn a dyn, rhwng anifail ac anifail a rhwng dyn ac anifail. Heddiw fe fydd pobl yn sôn am gyfathrebu rhwng dyn a pheir- iant ac yn wir rhwng peiriant a pheiriant, ac awgryma hyn fod y diffiniad a roddais yn rhy gul. Y mae hyn yn bosibl, eto onid ail ystyr yw hon, ac onid y gyfathrach rhwng dynion a dynion, rhwng dynion ac anifeiliaid, a rhwng anifeiliaid â'i gilydd, yw'r ystyr gyntaf ? Beth bynnag, defnyddiaf y diffiniad yn yr ystyr yma am weddill y papur. Fe fyddwn yn ceisio yn yr ysgrifau hyn, yn ogystal â diffinio, ystyried, ac o bosibl awgrymu, damcaniaethau am natur cyfathrebu. Er enghraifft gellir cynnig damcaniaeth fathemategol amdano, a gwneir hynny (am y tro cyntaf yn Gymraeg yn sicr) gan Melville Hopkins. Ond fe geir yma hefyd ddamcaniaethau Uai cyfyng na'r ddamcaniaeth fathemategol, hyd yn oed os llai manwl a phenodol. Ac am y damcan- iaethau hyn ni fydd neb ohonom yn honni eu bod yn derfynol. I. Pa fath o gyfathrebu sydd yn bosibl rhwng dynion â'i gilydd ? Y cyfathrebu pwysicaf, yn sicr, yw hwnnw a ddaw o'r ymgais ymhlith dynion i gyflwyno gwybodaeth i'w gilydd, cyfathrebu fel ymgais i ehangu gwybodaeth o bob math, ac y mae dyfeisiadau diweddaraf