Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFATHREBIAETH A CHELFYDDYD i. Y Ddau Draddodiad. YN Y Gorllewin etifeddasom ddau draddodiad ynglyn â'r celfau cain', fel y'u gelwir, ac ar un olwg y mae'r ddau'n anghyson â'i gilydd. Y cyntaf yw eu ystyried fel ffurfiau ar gyfathrebu, credir mai swyddog- aeth yr artist yw cyfrannu at ddysg a gwybodaeth, a gwerthfawrogir ef feì propogandydd credoau uniongred a chynhaliwr morale cym- deithasol. I'r gwrthwyneb, oni chydymffurfia, beier ef am lygru a thanseilio safonau a chredoau ei gymdeithas. Peth cymdeithasol felly yw pob celfyddyd, a bernir yr artist fel un yn dal swydd gyfrifol a chydnabyddedig oddi mewn i gymdeithas. Y mae'r ail draddodiad i raddau'n anwybyddu'r dybiaeth hon. Ty- bir, yn hytrach, mai'r hyn a geir yn y celfau cain yw mynegiant o brofiad neu deimlad yr unigolyn sy'n creu, ac fe'i hystyrir fel creadur didoledig, ac ar wahân, heb iddo gyfrifoldeb na swydd gymdeithasol fel y cyfryw. Creadigaeth bersonol yw ei waith, yn adlewyrchu ei hynodrwydd fel person, a'i bennaf ddyletswydd yw diogelu ei ddidwylledd a'i un- plygrwydd rhag llygredigaethau ei gyfnod a'i gymdeithas. Perygl y traddodiad cyntaf yw troi celfyddyd yn draethiad ystrydebol, mecan- yddol; perygl yr ail yw ei throi'n eiddo i fân grwpiau sectyddol, ac i'w ffurf a'i chynnwys fynd yn fwy deithr ac annealladwy i'r cyhoedd. A oes raid inni ddewis rhyngddynt, neu a oes ffordd arall o feddwl a all gysoni'r hyn sy'n werthfawr yn y ddau draddodiad ? Credaf fod hynny'n bosibl, ond cyn y gellir dangos hyn y mae'n rhaid manylu mwy ar ragdybiaethau y ddau draddodiad. 2. Traethu a Chyfathrebu. Yn gyffredin, pan fyddom yn cyfathrebu trosglwyddwn genadwri o'r naill berson i'r llall gan osgoi cymhlethu'r drafodaeth drwy drafod cyfathrebu rhwng person a pheiriant neu anifail. I drosglwyddo'n effeithiol, rhaid cyfieithu'r genadwri i gyfres o arwyddion neu sym- bolau ac y mae'n rhaid i'r derbynnydd ddehongli'r rhain i ddeall a derbyn y genadwri. Yn y cyswllt hwn y mae'r arwyddion yn cyn- rychioli'r genadwri. Gall hyn olygu'n unig fod perthynas achos ac effaith rhyngddynt. Dywedir bod y cymylau'n arwydd o law am fod perthynas reolaidd rhwng math arbennig o gymylau a glaw, ac wrth sylweddoli'r cyswllt gellir, o weld y cymylau, ragweld y glaw. Arwydd naturiol yw hwn, ac y mae dyn ac anifail trwy ddarllen yr arwyddion yn dod i ddeall eu hamgylchedd a chymhwyso'u hunain iddo. Math arall o arwydd naturiol yw symptom, Ue gellir dyfalu'r achos o weld yr effaith, boed hwnnw'n sbotiau coch ar y croen neu bwl o chwerthin neu wylo.