Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEILIAU FFISEGOL CYFATHREBIAETH Rhagymadrodd Wrth ddechrau trafod agweddau ffisegol cyfathrebiaeth carwn inni wneud cytundeb ein bod yn derbyn y gair yn ei ystyr ehangaf. Os bydd rhaid cyfyngu ar y drafodaeth neu arbenigo fe wnawn hynny yn nes ymlaen. Ond wrth fynd ymlaen hawdd fydd meddwl am enghreifftiau syml a chyffredin a fydd yn gyson â'r egwyddorion y byddwn yn sôn amdanynt. Y mae cyfathrebiaeth yn cynnwys pob ffordd y gaU syniad neu batrwm o syniadau dreiglo o'r naill meddwl i feddwl arall. Ceir enghreifftiau mewn siarad ac ysgrifennu yn eu holl agweddau, o'r frawddeg fer a chryno i'r araith hir gyffrous. Nid yw llenyddiaeth na barddoniaeth nac unrhyw fath o ysgrifennu yn gaeth o fewn ffìniau amser. Y mae'n bosibl i ddarllenwr dderbyn neges ar draws canrifoedd oddi wrth awdur arbennig. Drwy arluniaeth a cherddoriaeth gellir cyfleu syniadau nas gellid eu trafod o fewn ffram- waith iaith gyffredin. Ar y llaw arall gallwn feddwl am sefyllfa Ue y mae'n hanfodol fod y neges yn eglur, yn ddealladwy ac yn dderbyn- iadwy ar unwaith. (Cofiwn yr adnod i Corinthiaid 14, 8 Canys os yr utgorn a rydd sain anhynod, pwy a ymbaratoa i ryfel ?") Onid ofer, meddech, yw disgwyl i ddamcaniaeth wyddonol cyfathrebiaeth gynnwys ystyriaethau sydd yn cyffwrdd â'r holl weithrediadau a olygir wrth gyfathrebiaeth ? Un o nodweddion y ddamcaniaeth fodern a sefydlwyd gan Shannon (1948) ac a ddisgrifiwyd yn y llyfr gan Shannon a Weaver (1949) yw ei bod, wrth drafod syniadau sylfaenol y pwnc, yn tynnu sylw at faterion sydd ymhell o fod yn dechnegol yn unig, ond sydd o ddiddordeb eang a chyffredinol. Y mae ar y ddam- caniaeth ddyled hefyd i Wiener (1947, 1949) ac i von Neumann (1932). Y mae Shannon yn cydnabod pwysigrwydd papurau cynnar gan Nyquist (1924, 1928) a Hartley (1928). Wrth sôn am drosglwyddo gwybodaeth nid oes angen inni gyfyngu ein hunain i gyfathrebiaeth rhwng dyn a dyn. Gallwn feddwl hefyd am gyfathrebiaeth rhwng dyn a pheiriant neu rwng peiriant a dyn neu rwng peiriant a pheiriant neu efallai, weithiau, rhwng un rhan o beiriant a rhan arall ohono neu rwng un rhan o gorff dyn a rhan arall. Y mae'n bosib sôn hefyd am gyfathrebiaeth mewn sefyllfa ffisegol Ue y mae gwybodaeth yn ein cyrraedd o'r byd allanol. Cyfundrefnau Cyfathrebiaeth Er mwyn arwain at rai o syniadau hanfodol y pwnc gadewch i ni ystyried cyfathrebiaeth o'r safbwynt technegol. Gellir darlunio cyfun- drefn gyfathrebol fel y canlyn (a dilyn Shannon)