Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFATHREBU TORFOL Mi ddechreuaf ar unwaith gyda dyfyniad: Nid torf (mass) yw'r gynulleidfa radio na'r gynulleidfa deledu, ond cymuned o gymunedau, a phob cymuned yn gymuned o bersonau. Cyn gynted ag yr anghofiwn ni hyn, yr ydym mewn perygl o droedio'r llwybr sy'n arwain at gyflynciad (take-over) totalitariadd a machlud unrhyw fath o gymdeithas ddemocrataidd. Mae'n ymddangos i mi mai dyma un o'r peryglon sy'n wynebu'r cyfrwng hwn, o'i gaethiwo gan bwerau byd mas- nach wedi ymgysegru'n cyfangwbl i wneud elw. Fe fyddai llwyr ddar- ostwng darlledu yn y wlad hon i ddibenion gwneud elw nid yn unig yn diraddio darlledu ei hunan, ond yn enbyd ei ganlyniadau i'r gymdeithas gyfan. Fe olygai'r fath ddarostwng ynddo'i hun fod ein cymdeithas wedi mynd yn ddihidio o'r pethau a berthyn i'w hiechyd. Fe fyddai'n arwydd o afiechyd dwfn.1 Cyfieithiad o'r Saesneg yw'r geiriau yna, ond fe'u llefarwyd gan Gymro Cymraeg, sef, Aneirin Talfan Davies. Ac yn y dyfyniad yna y mae'n rhoi'i fys ar un o beryglon radio a theledu. Ond mae peryglon eraill yn genni yn y ddau gyfrwng hyn, fel y ceisiaf ddangos. Cystal, hwyrach, inni'n hatgoffa'n hunain o gynnydd brawychus cyfathrebu torfol yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf, h.y. yn ystod oes y rhan fwyaf ohonom ni. Nid na allai dyn siarad â thyrfa cyn hynny. Yn nechrau'r ganrif hon fe allai pregethwr annerch rhai miloedd o bobol mewn sasiwn neu gymanfa, neu wleidydd gynulleidfa go fawr ym Mhafiliwn Caernarfon neu un o neuaddau helaeth Lloegr. Ac yr oedd gan ambell bapur newydd Saesneg gylchrediad o ugeiniau o filoedd o gopiau. Ond miloedd, wedi'r cwbwl, oedd eithaf cynulleidfa unrhyw un, boed ddyn, boed bapur, mor ddiweddar â hanner canrif yn ô1. Erbyn canol y ganrif, yr oedd y Daily Mirror yn unig yn gwerthu tair miliwn a hanner o gopïau bob dydd. (The Biggest Daily Sale on Earth oedd yr ymffrost.) Erbyn hyn y mae rhyw naw miliwn yn cydedrych yr un amser ar raglen fel Panorama, ac efallai bymtheng miliwn yn cydedrych ar hysbyseb powdwr golchi. Pan oeddem ni'n blant yr oedd llawer o leisiau'n llefaru'n ysbeidiol, pob un wrth gymharol ychydig o eneidiau. Heddiw, y mae ychydig leisiau'n murmur yn ı Mr. Aneirin Talfan Davies, mewn anerchiad i Blaid Ryddfrydol Cymru yn Y Borth, Ebrill, 1962.