Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEILIAU SEICOLEGOL CYFATHREBIAETH YN ôl y diffiniad, y mae cyfathrebiaeth yn cyfeirio at y cydweithrediad sy'n digwydd rhwng dau beth byw. Dyma'r weithred sy'n digwydd pan fo ynni yn cael ei drosglwyddo o'r naiU le i'r llall. Os teflwch chwi garreg i ganol llyn o ddŵr, fe welwch y tonnau'n symud yn araf ac yn rheolaidd o'r Ue y disgynnodd y garreg hyd ymylon y llyn. Fe ddy- wedir yn y cyswllt hwn mai'r tonnau sy'n gwneud y gyfathrebiaeth rhwng y garreg a'r ymylon. Dywed Munn1 fod tri pheth yn hanfodol mewn cyfathrebiaeth yn gyntaf, y sawl neu'r peth sy'n danfon y neges yn ail, y sianel sy'n cario'r neges ac yn drydydd, y sawl neu'r peth sy'n derbyn y neges. Gan fod cyfathrebiaeth feUy'n rhan o fywyd dyn ac anifail, ac iddi bwysigrwydd anhepgorol mewn bywyd, hawlia sylw y seicolegwr, a rhaid inni ofyn y cwestiynau sylfaenol: beth yw pwrpas y weithred a thrwy ba foddion y gweithreda ? Dywed awdurdod ara1l2 fod tri math pendant o gyfathrebiaeth, a gellir gweld enghreifftiau digon eglur i ddangos y gwahaniaeth rhyng- ddynt. I. Ar y lefel gyntaf ceir gweithred atblyg (reflex action), sydd bron yn llwyr y tu allan i reolaeth y gweithredwr. Gall ddigwydd ar y lefel isaf o fywyd, gyda'r creaduriaid symlaf. Pan fo pryfedyn yn wynebu rhyw sefyllfa anghyfarwydd, y peth naturiol yw troi o'r neilltu. Fe ddilyn y patrwm greddfol, heb ddewis nac ewyllysio. Mae gwaedd unrhyw anifail mewn perygl yn enghraifft o gyfathrebiaeth ar y lefel hon. 2. Ar yr ail lefei, gwelir gweithrediadau sy'n llawer mwy bwriadol. Yma, y mae rhyw fath o feddwl yn digwydd. Pan fo ci yn mynd i'r drws ac yn troi'n ôl at ei feistr a siglo'i gwt, gallwn fod yn weddol siwr fod y ci am fynd allan. Yma, y mae rhyw gysylltiad eglur rhwng y negesydd a'r dyn sy'n derbyn y neges. Lefel is-ddynol sydd yma, ond cam ymlaen mewn datblygiad. 3. Ar y drydedd lefel, fe gawn iaith. Ac y mae iaith yn beth mor gymhleth, fel nad oes un anifail arall ond dyn yn y byd yn dod yn agos i'w hamgyffred. Cyfathrebiaeth rhwng anifeiliaid Ar y cyfan, gwelir bod arwyddion a rydd anifeiliaid bron yn llwyr yn ymwneud ag anghenion bywyd. Er enghraifft, galwad i dynnu sylw cymar, drewdod y drewgi i gadw gelyn i ffwrdd, ac ystumiau y simpansî benywaidd i dynnu sylw oddi wrth ei chasgliad o fwyd. ı MUNN; N. L., Psychology: The Fundamentals of Human Adjustment (1961), tud. 610. I HEBB, D.O., A Textbook of Psychology (19δ0), tud. 207.